AS yn galw am ymestyn cyfnod taliad salwch angheuol

  • Cyhoeddwyd
Madeleine Moon
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Madeleine Moon AS yn arwain dadl fer yn San Steffan ddydd Mercher

Mae angen newid y rheolau'n ymwneud â thaliadau i bobl sydd â salwch angheuol, medd Aelod Seneddol Pen-y-Bont ar Ogwr.

Bydd Madeleine Moon o'r Blaid Lafur yn arwain dadl yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher er mwyn egluro pam fod y drefn bresennol yn achosi problemau mawr i bobl sy'n dioddef.

Yn unol â'r gyfraith bresennol, rhaid i feddyg benderfynu a yw person yn dioddef o salwch angheuol, ac os ydyn nhw'n debygol o farw o fewn chwe mis.

Yn yr achos hynny gall claf hawlio cymorth ariannol penodol drwy broses ffurfiol 'Rheolau Arbennig ar gyfer Salwch Angheuol'.

Y broblem i nifer yw'r rheol bod disgwyl i'r claf farw o fewn chwe mis.

Yn ôl Mrs Moon mae'r fath reol yn cael effaith fawr ar y rhai hynny lle nad oes disgwyl iddyn nhw farw o fewn chwe mis, ond sy'n dal i ddioddef o salwch angheuol.

Siarad o'r galon

Mae Mrs Moon yn siarad o'r galon, wedi iddi golli ei gŵr i glefyd motor niwron.

"Mae disgwyl i draean y bobl sy'n dioddef o glefyd motor niwron farw o fewn blwyddyn i ddiagnosis, ond i hanner fyw am ddwy flynedd wedi diagnosis," meddai.

"Dydyn nhw ddim felly yn gallu mynd drwy'r broses arbennig, er eu bod yn wynebu'r un trafferthion ac angen yr un cymorth.

"Dwi wedi cyfarfod â rhai sy'n poeni am golli'u cartrefi, yn poeni am dalu biliau. Mae nifer yn colli swyddi ac mae'r dyfodol oedd ganddynt wedi diflannu.

"Hoffwn sicrhau bod y rhai sy'n dioddef o bob salwch angheuol yn gallu treulio eu dyddiau olaf yn mwynhau cwmni ffrindiau a'r teulu, nid poeni am sut i dalu'r morgais."

Mae'r mudiad dros glefyd motor niwron yn cefnogi ymgyrch yr aelod Llafur, gan fynnu bod angen i Gymru a Lloegr ddilyn esiampl Yr Alban.

Mae'r Alban eisoes wedi pleidleisio i newid y drefn, gan benderfynu peidio â chynnwys amser penodol, fel chwe mis, o'r diagnosis hyd at farwolaeth.