Ateb y Galw: Yr actores Sue Roderick

  • Cyhoeddwyd
Sue RoderickFfynhonnell y llun, S4C

Yr actores Sue Roderick sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan Lowri Palfrey yr wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Bod ar y swings yn parc yn Porthmadog efo Taid.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Telly Savalas oedd yn actio Kojak.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mynd i'r angladd anghywir...

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Wythnos diwethaf yn angladd fy hen ffrind Frank Vickery.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r dramodydd o'r Rhondda, Frank Vickery, ym mis Mehefin

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gormod i'w rhestru!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Cwm Pennant.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Unrhyw noson pan dwi ar fy ngwyliau efo fy merch, Melisa, yn America.

O archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Dwi yn ffeind.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

The Shining.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Elvis, wrth gwrs!

Disgrifiad o’r llun,

'Na fe'n un mowr! Roedd Casi (Sue Roderick) a Mrs Mac (y diweddar Iola Gregory) yn mwynhau diod bach yn y Deri ar Pobol y Cwm

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae pawb yn gwybod bob dim!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd am ginio hir hir efo fy merch mewn lle bwyta drud iawn.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Y ddeuawd hyfryd honno o opera Les pêcheurs de perles (The Pearl Fishers) gan Bizet.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bryn Terfel wedi canu'r ddeuawd o The Pearl Fishers nifer o weithiau gyda'r tenor enwog Andrea Bocelli

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Prawns wedi eu grilio, stêc a salad, a crème brûlée.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Eleanor Roosevelt

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

William Thomas

Disgrifiad o’r llun,

Roedd William Thomas a Sue Roderick yn actio gyda'i gilydd yn y ffilm 'Twin Town'