Ymestyn cynllun brechu HPV Cymru i fechgyn 12 a 13 oed
- Cyhoeddwyd
Bydd pigiad sy'n amddiffyn yn erbyn firws sy'n achosi canser ceg y groth hefyd yn cael ei gynnig i fechgyn yn eu harddegau cynnar, yn ôl yr ysgrifennydd iechyd.
Mae brechlyn Feirws Papiloma Dynol (HPV) yn cael ei gynnig ar hyn o bryd i ferched 12 a 13 oed.
Mae'r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi awgrymu ymestyn y rhaglen i fod ar gael i fechgyn o'r un oedran hefyd.
Dywedodd Vaughan Gething y byddai'n dilyn eu cyngor, ac y byddai gwneud hynny yn helpu achub mwy o fywydau yn y dyfodol.
Beth yw HPV?
Firws Papiloma Dynol (human papillomavirus) yw'r enw ar gyfer grŵp o firysau sy'n cael ei basio trwy gyswllt rhywiol.
Mae'r mwyafrif o heintiau HPV yn gadael y corff mewn amser, ond gall rhai ohonynt achosi problemau difrifol.
I fechgyn, gall hyn gynnwys canser yr anws, pidyn, ceg a'r gwddf.
Dywedodd Mr Gething: "Byddwn nawr yn gweithio gyda GIG Cymru ar weithredu'r rhaglen newydd a'i wneud ar gael cyn gynted ag sy'n ymarferol."
Mae Llywodraeth Yr Alban hefyd wedi cyhoeddi y byddan nhw'n ymestyn eu cynllun brechu hwythau i fechgyn.
Mae adran iechyd Lloegr wedi dweud y byddan nhw'n gwrando ar y cyngor ac yn ystyried diweddaru eu polisi yn fuan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2015