Dechrau ailgyflwyno camerâu cylch cyfyng Dyfed Powys

  • Cyhoeddwyd
CCTVFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y camerâu'n dod â delweddau manylder uwch i system monitro ganolog y llu

Mae'r broses o ailgyflwyno camerâu cylch cyfyng mewn 17 o drefi ar draws tair sir wedi dechrau - rhyw dair blynedd ar ôl i gomisiynydd heddlu benderfynu nad oedd am barhau i ariannu'r gwasanaeth.

Daeth adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan gomisiynydd cyntaf Heddlu Dyfed-Powys, Christopher Salmon i'r casgliad nad oedd achos i gefnogi monitro CCTV cyhoeddus.

Dywedodd yr adroddiad hefyd mai ychydig iawn o dystiolaeth oedd ar gael bod y camerâu yn atal trosedd dreisgar neu rai oedd yn ymwneud ag alcohol.

Mae ei olynydd, Dafydd Llywelyn, wedi penderfynu gwario tua £1.5m ar ailgyflwyno 116 o gamerâu manylder uchel mewn 17 o leoliadau ar draws ardal y llu.

Mae'r camerâu cyntaf yn cael eu gosod yn Llanfair-ym-Muallt, a'r gobaith yw y byddan nhw'n weithredol yn ystod wythnos y Sioe Frenhinol.

'Diogelu ein cymunedau'

"Roedd hi'n flaenoriaeth i mi i sicrhau bod y system cylch cyfyng yn cael ei ail-greu ar draws yr ardal er mwyn sicrhau bod ein cymunedau yn cael eu diogelu," meddai Mr Llywelyn.

"Mae hwn yn destun balchder i ddod â'r system 'nôl. Mae yna gyffro yn y llu, ac mae'r heddlu'n gweld pwy mor bwysig yw'r arf yn eu hymchwiliadau.

"Yn anffodus, mae yna gynnydd wedi bod mewn troseddau treisgar ar draws Cymru a Lloegr, ac felly mae hyn yn dod ar amser arbennig i ni fel llu i ddiogelu ein cymunedau."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafydd Llywelyn bod yr heddlu'n "gweld pwy mor bwysig yw'r arf yn eu hymchwiliadau"

Bydd y camerâu'n dod â delweddau teledu cylch cyfyng manylder uwch i system fonitro ganolog ym mhencadlys yr heddlu.

Fe fydd cyfleusterau monitro yng ngorsafoedd lleol hefyd, fydd yn caniatáu i swyddogion fonitro eu camerâu lleol wrth wasgu botwm.

Bydd swyddogion hefyd yn gallu adolygu teledu cylch cyfyng ar eu dyfeisiau symudol.

Fe fydd hi'n cymryd 18 mis i gwblhau'r cynllun yn y cymunedau canlynol:

  • Aberdaugleddau;

  • Abergwaun;

  • Aberhonddu;

  • Aberteifi;

  • Aberystwyth;

  • Caerfyrddin;

  • Dinbych-y-pysgod;

  • Doc Penfro;

  • Hwlffordd;

  • Llandrindod;

  • Llanelli;

  • Llanfair-ym-Muallt;

  • Penfro;

  • Rhydaman;

  • Saundersfoot;

  • Y Drenewydd;

  • Y Trallwng.