Gŵyl Rhif 6 i gymryd seibiant 'am gyfnod amhendant'
- Cyhoeddwyd
Mae Gŵyl Rhif 6 wedi cyhoeddi mai gŵyl eleni fydd yr olaf "am rŵan".
Dechreuodd yr ŵyl, sydd wedi ei leoli ym Mhortmeirion yng Ngwynedd, yn 2012 ac ers hynny mae wedi llwyddo i ddenu rhai o fawrion y byd cerddorol ac ennill sawl gwobr.
Mewn datganiad dywedodd yr ŵyl nad yw cynnal y digwyddiad yn yr amgylchiadau presennol yn gynaliadwy.
Mae'r trefnwyr wedi diolch i "bawb sydd wedi bod yn rhan o siwrnai Gŵyl Rhif 6 ar hyd y blynyddoedd", ond mynnu mai cymryd seibiant oedd y "penderfyniad cywir".
Bydd gŵyl 2018 yn parhau fel y disgwyl rhwng 6-9 Medi.
Gŵyl 'unigryw'
Dywedodd y datganiad fod proffil yr ŵyl wedi tyfu "tu hwnt i'w faint", gan ennill sawl gwobr, derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol a "sefydlu ei hun fel un o wyliau fwyaf unigryw'r byd".
"Roedden ni wastad yn gwybod fod gennym ni rhywbeth arbennig, ond byth yn disgwyl iddo gydio yn nychymyg pobl fel hyn," meddai'r trefnwyr.
Ar hyd y blynyddoedd mae sawl artist blaenllaw wedi ymweld â Phortmeirion gan gynnwys Noel Gallagher, Beck, Pet Shop Boys, Manic Street Preachers a'r Flaming Lips.
Mae'r ŵyl hefyd wedi rhoi llwyfan i artistiaid Cymraeg gydag Yws Gwynedd, Candelas, Yr Eira a llawer mwy yn diddanu'r torfeydd ar hyd y blynyddoedd.
Yn ôl y trefnwyr cymryd seibiant yw'r "peth iawn i wneud" ar hyn o bryd, ond maen nhw'n nodi eu bod nhw eisoes yn cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2017