Archeolegwyr yn canfod olion Rhufeinig yng Nghaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae archeolegwyr wedi dod o hyd i grochenwaith o'r Oes Rufeinig ar safle adeiladu yng Nghaerfyrddin.
Dywedodd Phil Paucher o gwmni Archaeology Wales ei fod wedi ei gyffroi gan y darganfyddiad mewn tref oedd ar un adeg ar gyrion yr Ymerodraeth Rufeinig.
Mae'r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol ar y safle ar Heol y Priordy wedi ei atal am y tro tra bod y tîm o archeolegwyr yn archwilio'r safle.
"Rydym yn gallu dyddio peth o'r crochenwaith rhwng 140 a 190 ar ôl Geni Crist gan fod stamp y crochenydd arnynt." meddai Mr Paucher.
"Mae'n cynnwys crochenwaith Samian gafodd ei ddarganfod yn ei gyfanrwydd.
"Hwn yw'r tro cyntaf mewn 25 mlynedd i unrhyw un o'r tîm cloddio ddod o hyd i grochenwaith cyfan o'r math yma.
"Mae'r Samian yma mae'n debyg yn dod o ogledd Gaul, sef gogledd Ffrainc erbyn heddiw."
Dywedodd eu bod yn disgwyl parhau ar y safle am ychydig wythnosau cyn i'r gwaith adeiladu allu ailddechrau.
Bwriad Cymdeithas Tai Bro Myrddin yw codi 27 o fflatiau a 10 o dai ar y safle sydd gyferbyn â chlwb pêl-droed y dref.
Dechreuodd y gwaith adeiladau wedi i adeilad hen fodurdy Denzil Evans gael ei ddymchwel.
Ond roedd yn rhan o'r amodau cynllunio y byddai'n rhaid cyflogi cwmni archeolegol pe bai sylfaeni hanesyddol yn cael eu cloddio.
Mae Heol y Priordy wedi ei hadeiladu ar ben ffordd Rufeinig sy'n dyddio nôl 2,000 o flynyddoedd.
Caerfyrddin, neu Moridunum, oedd y dref olaf i'r gorllewin yn amser yr Ymerodraeth Rufeinig ac mae rhai o olion yr ardal yn cynnwys amffitheatr.
Dywedodd swyddog cenedlaethol cwmni Archaeology Wales, Rowena Heart fod y cyfle i archwilio safle mor agos at ganol Caerfyrddin yn "gyffrous ynddo'i hun".
"Mae'r safle yn agos i ganol y dre, ac felly yn agos i ble oedd prif le gweinyddu'r ardal," meddai.
"Dyw dod o hyd i hen olion Rhufeinig mewn tref Rufeinig ddim yn annisgwyl, ond mae'r darganfyddiadau yn dal yn rhai cyffrous.
"Rydym hefyd wedi dod o hyd i ddarnau mân o grochenwaith, hen geiniogau a gemau plant. Mae'n awgrymu fod y bobl oedd yn byw yma o bosib o haenau uwch y gymdeithas.
"Doedd yna ddim gymaint o olion o'r canol oesoedd ond mae'r darganfyddiadau o'r Oes Rufeinig wedi bod yn rhai da."