Dim teilyngdod: Beth sy'n digwydd i gadeiriau heb eu hennill?

  • Cyhoeddwyd
Y gadair wag yn cael ei chario o lwyfan y Pafiliwn
Disgrifiad o’r llun,

Does neb eisiau gweld yr olygfa yma yng Nghaerdydd 2018 - y gadair wag yn cael ei chario o'r llwyfan yn Eisteddfod Dinbych 2013

Fel un o uchafbwyntiau seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol, does neb eisiau clywed nad oes "neb yn deilwng" o ennill Cadair y Brifwyl, sy'n cael ei rhoi i'r bardd sydd wedi cyfansoddi'r casgliad gorau o gerddi mewn cynghanedd.

Ond mewn 137 o flynyddoedd, mae'r geiriau hynny wedi eu cyhoeddi o lwyfan pafiliwn yr Eisteddfod 16 o weithiau a'r gadair wag wedi ei chludo oddi ar y llwyfan yn siomedig i.... i ble?

Oes 'na fynwent i gadeiriau barddol yn rhywle? Ydyn nhw'n cael eu hailgylchu? Neu eu defnyddio eto?

Wel yn ôl swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol, mae'r penderfyniad ynglŷn â beth i'w wneud â chadair nad oes neb yn deilwng ohoni yn nwylo pwyllgor gwaith lleol yr ŵyl.

Nhw sydd wedi comisiynu'r Gadair, felly nhw sy'n 'berchen' arni.

Fel arfer maen nhw'n penderfynu rhoi'r Gadair i sefydliad neu adeilad lleol.

Y tro diwethaf i ddiffyg teilyngdod am y Gadair ddigwydd oedd yn Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013.

Dywedodd y beirniaid nad oedd y safon wedi ei chyrraedd a'r beirdd a gynigiodd am y wobr "heb chwysu digon dros y gwendidau".

Disgrifiad o’r llun,

Cadair a choron hardd Eisteddfod Caerdydd 2018

Mae'r gadair honno bellach i'w gweld yn Llyfrgell Dinbych, fel yr esbonia Medwyn Williams, hanesydd lleol sy'n gweithio yn Amgueddfa Dinbych.

"Am mai Eisteddfod Sir Ddinbych oedd hi yn 2013 [yn hytrach na'r dref] fe benderfynodd y pwyllgor gwaith ei rhoi hi i'r cyngor sir i'w harddagos rhywle yn y sir gydag argymhelliad ei bod yn mynd i lyfrgell y dref, gan mai yn y dref y cynhaliwyd yr eisteddfod," meddai.

"Felly yno y mae hi i bobl eistedd ynddi os dymunan nhw! Mae hi yn y gornel ar y llawr cyntaf.

"Cafodd cadair 1939 ei hatal hefyd ac mae hi yn siambr Cyngor Tref Dinbych ac yn cael ei defnyddio gan y Maer yn aml.

"Roeddwn yn arfer bod yn aelod o gyngor y dref ac roedd hi'n cael ei defnyddio gan gadeirydd pwyllgorau yn rheolaidd.

"Ond dydi hi ddim yn gadair gyfforddus chwaith!"

Gyda'r Gadair wedi ei hatal yn Ninbych yn 1898 hefyd, mae'r dref wedi bod braidd yn anlwcus o ran gwobrwyo'r Gadair.

Cafodd y Goron hefyd ei hatal yno yn 1939.

Disgrifiad o’r llun,

Doedd neb yn deilwng o gadair y Bala 2009 chwaith

Dilwyn Jones, o Faerdy ger Corwen, oedd wedi cynllunio a chreu Cadair 2013 ac yn anffodus iddo, roedd wedi profi diffyg teilyngdod i un o'i gadeiriau i'r blaen, a hynny yn Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau yn y Bala yn 2009., dolen allanol

Mae'r gadair honno, bellach i'w gweld yn Ysgol y Berwyn, y Bala, ac er na eisteddodd prifardd ynddi yn 2009 mae beirdd buddugol wedi gwneud defnydd ohoni o bryd i'w gilydd ers hynny.

"Mae'r gadair yn nerbynfa'r ysgol wrth ymyl y llyfrgell, sydd hefyd yn llyfrgell sirol sy'n agored i'r cyhoedd," meddai'r Pennaeth, Andrew Roberts.

Ffynhonnell y llun, Ysgol y Berwyn
Disgrifiad o’r llun,

Cadair Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau sydd i'w gweld yn Ysgol y Berwyn, y Bala

"O dro i dro mae hi wedi cael ei defnyddio yn eisteddfod yr ysgol ac rydyn ni wedi ei benthyg i ambell ysgol arall ac eisteddfodau ardal.

"Yn ddiddorol iawn, ar gefn y gadair mae llun o bry copyn wedi ei gerfio.

"Mae hynny am mai Heddlu Gogledd Cymru gyda chefnogaeth y prif gwnstabl oedd yn noddi'r gadair - y 'prif gopyn'!"

Y Prif Gopyn oedd enw barddol cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Richard Brunstrom, yng Ngorsedd Y Beirdd.

Ond beth am Eisteddfod Caerdydd 2018? Sut record sydd gan y brifddinas?

Wel fel Dinbych, mae Caerdydd wedi bod yn eithaf anlwcus o ran teilyngdod i'r Gadair hefyd.

Yn y chwe gwaith mae'r brifwyl wedi ei chynnal yno ers 1880, mae wedi ei hatal bedair gwaith - yn 1883, 1899, 1960 a'r tro diwethaf yn 1978.

Ffynhonnell y llun, Nest Gwilym
Disgrifiad o’r llun,

Cadair Eisteddfod 1978 yn Ysgol Glantaf

Yn 1978 roedd yn cael ei chynnal yn ardal Pentwyn a'r gadair yn cael ei rhoi am gywydd ar y testun Y Ddinas.

Ond doedd dim teilyngdod ac fe roddwyd y gadair i Ysgol Glantaf, sef ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf Caerdydd a oedd yn agor ei drysau i'w disgyblion cyntaf ychydig wythnosau'n ddiweddarach ym mis Medi 1978.

Yn ffodus, torwyd ar yr anlwc pan daeth Hilma Lloyd Edwards â theilyngdod i'r brifddinas yn Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch 2008.

O ran cystadleuaeth y Goron, dim ond chwe gwaith mae wedi ei hatal ers 1880, a hynny'r tro diwethaf yn Aberdâr yn 1956.

Croeswn ein bysedd am deilyngdod yng nghystadlaethau Caerdydd 2018!