Y dyn sydd wedi rhedeg pob Ras yr Wyddfa ers y gyntaf
- Cyhoeddwyd
Ar 21 Gorffennaf bydd Ras yr Wyddfa rhif 43 yn cael ei chynnal, dolen allanol. Roedd Malcolm Jones o Dremadog yn rhedeg y ras gyntaf un ac mae o wedi bod yn cymryd rhan bob blwyddyn ers hynny.
Bu Malcolm yn hel atgofion am y ras eiconig ddechreuodd ar ddiwrnod carnifal Llanberis yn 1976:
Pam wnes di benderfynu rhedeg Ras yr Wyddfa, ac yna dal i wneud ers y ras gyntaf?
Dwi wedi bod â diddordeb mewn rhedeg ers dyddiau ysgol. Cyn sefydlu Ras yr Wyddfa roeddwn i'n trafeilio i ardal y Llynnoedd yn Lloegr i gystadlu mewn rasys mynyddoedd.
Felly pan gychwynnodd Ras yr Wyddfa yn 1976 roedd hi'n her i gymryd rhan, ond 'nes i ddim meddwl y buaswn yn dal i wneud y ras 40 o flynyddoedd yn ddiweddarach.
Ai rhedeg yw dy brif ffordd o gadw'n iach neu wyt ti'n ymarfer corff mewn ffyrdd eraill hefyd?
Ers cyrraedd 60 oed 'dwi wedi cymryd diddordeb mewn triathlon, sef nofio, beicio a rhedeg ac yn cymryd rhan mewn tua pump bob blwyddyn.
Bydda i'n ymarfer bron bob dydd drwy nofio ac wedyn yn beicio tua 20 milltir.
Ydy'r ras yn mynd yn anoddach fel mae'r blynyddoedd yn mynd heibio?
Ydi! Mae'r amseroedd yn ymestyn pob blwyddyn ond ceisio torri dwy awr ydi'r nod y dyddiau yma.
Mae'n cymryd diwrnod neu ddau i'r coesau ddod at eu hunain eto, yn hytrach na' chwpwl o oriau yn y blynyddoedd cynnar.
Prun oedd y ras orau... a'r waethaf?
Wrth rheswm tydi'r amseroedd ddim cystal ag yr oedden nhw pan roeddwn ar frig fy ffitrwydd a dydy hi ddim yn bosib cyrraedd amseroedd tebyg i'r hyn ro'n i'n gael 40 mlynedd yn ôl pan o'n i'n 25 oed.
Mi ges i fy amser gorau yn 1988 sef 1.14.14 a'r amser gwaethaf yn 2011 sef 2.14.00.
Oes 'na ras sy'n aros yn y cof?
Y flwyddyn sydd yn gofiadwy i mi yn bersonol yw 1991 pan roedd canser arna i.
Mi wnes i orffen y driniaeth ym mis Mai a chael amser o 1.35.33 - hapus iawn oherwydd doeddwn i ddim wedi ymarfer cystal ag arfer o achos y salwch.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ydy'r ras wedi newid dros y blynyddoedd?
Y prif newid yw cyflwr y llwybr. Dwi'n cofio rhedeg mewn rhychau dyfn a chul - oedd yn galed ar y traed; erbyn hyn mae llwybr i'r copa yn gael ei gynnal a'i gadw'n eithriadol o dda.
Mae pethau fel dillad rhedeg ac esgidiau llawer gwell erbyn hyn hefyd, mae'n hanfodol cael gêr da er mwyn gwneud ras mor galed.
Newid sylweddol arall ydy agwedd y rhedwyr - ers talwm roedd digon o sbort a chwerthin i'w gael rhwng y cystadleuwyr; erbyn heddiw mae'r awyrgylch yn llawer iawn mwy sobor gan fod cystadlu rhyngwladol yn digwydd ac mae'r prif redwyr o ddifri yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.
Sut fuaset ti yn mynd ati i wella Ras yr Wyddfa?
Mi fuaswn i yn cadw nifer y cystadleuwyr i ddim mwy na 400.
Rhaid cofio fod nifer fawr o ymwelwyr yn mwynhau cerdded yr Wyddfa a chan nad ydy'r llwybr yn cau ar ddiwrnod y ras mae hyn yn gallu creu trafferthion, nid yn unig i'r rhedwyr ond hefyd i'r cerddwyr.
Oes 'na unrhyw fwriad i ymddeol?
Ar ôl y flwyddyn yma, dwi am gymryd pob blwyddyn fel mae'n dod.
Dwi ddim yn bwriadu rhoi'r gorau iddi, cyn belled â mod i'n cadw'n heini a iach, gobeithio y galla' i ddal i gystadlu mor hir a fo bosib. Tuag at yr hanner canfed ras?? Efallai...
Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi'n gyntaf ar Cymru Fyw yn 2015.