Yr her o gadw busnesau bach i fynd

  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n anodd cadw busnes y dyddiau yma. Mae ein strydoedd fawr yn llawn siopau gwag, a'n papurau newydd yn llawn straeon am bobl yn colli eu swyddi wedi i fusnesau fynd i'r wal.

Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, dolen allanol, yn 2016 cafodd 24,230 o fusnesau eu sefydlu yng Nghymru. Ond yn yr un flwyddyn, daeth 20,670 o fusnesau i ben.

Yn 2017, roedd tua 24,000 o fusnesau meicro (sef busnes â hyd at naw aelod o staff) yng Nghymru - oll yn ceisio cystadlu yn erbyn ei gilydd, a chwmnïoedd mwy, sydd â mwy o arian, staff ac adnoddau.

Dwy sydd yn gyfarwydd iawn â rhedeg busnesau bach yw Sioned Davies, sy'n cadw Siop Sioned yn Llanrwst, a Catrin Formosa, sy'n cyd-redeg siop ar-lein, Daffodili, gyda'i gŵr. Mae Cymru Fyw wedi cael sgwrs â'r ddwy i holi sut beth yw hi i redeg siop fach y dyddiau yma, a'r heriau sydd yn eu hwynebu.

line

Sioned a Catrin yn trafod...

...cyfnodau prysur a distaw

Catrin: Yr her fwya' yw does dim sefydlogrwydd o ran tâl. Mae'r misoedd cyn y 'Dolig fel arfer yn grêt i ni, ond mae 'na dip wedyn. Felly 'ni'n gorfod g'neud siŵr fod 'na rywbeth ar ôl yn y pot ar gyfer yr adege yna.

Ond mae bob blwyddyn yn wahanol, felly mae'n anodd cynllunio ymlaen. Dydyn ni ddim yn cael tâl bob mis gan fod rhai misoedd yn lot anoddach na misoedd eraill.

Eifion, Paul a CatrinFfynhonnell y llun, Catrin Formosa
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Paul a Catrin helpar newydd i'r tîm ers cael Eifion

Sioned: Fel arfer, mae Tachwedd a Rhagfyr yn fy nghadw i fynd tan tua mis Mai, wedyn ym mis Gorffennaf ac Awst mae'n brysur, sy'n fy nghadw i fynd tan y 'Dolig eto.

Ond eleni, nes i sylwi fod Mehefin yn ddistaw iawn. Os does 'na ddim pres yn y misoedd prysur i dy gario di i'r misoedd distaw, neith y busnes ddim rhedeg.

Mae'r siop yn edrych ar ôl ei hun, ond does 'na ddim lot o bres ar ôl ar ddiwedd y mis i fuddsoddi mwy yn y siop i brynu nwyddau newydd, sef y pethau ti ei angen i barhau gyda'r busnes.

...oriau hir

Sioned: Dwi ddim yn meddwl bob pobl gallach faint o waith sy'n mynd i mewn iddo fo. 'Dio ddim yn job 9-5. O'n i'n y siop am 7 bore 'ma yn ll'nau ffenestri - mae 'na gymaint o bethau bach gwirion felly sydd jest yn mowntio fyny.

Felly pan ti'n cael diwrnod distaw, lle ti'n gwerthu bron ddim, mae'n g'neud i ti gwestiynu pam ti'n mynd i'r holl waith 'na.

Sioned DaviesFfynhonnell y llun, Sioned Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sioned wedi bod yn cadw siop ers dwy flynedd a hanner

Catrin: Pan 'naethon ni ddechrau, o'n i'n brysur yn pacio stwff tan 2.30am pob nos ar gyfer y post, ac am yr ychydig o fisoedd diwetha' cyn gadael ein swyddi i 'neud hyn llawn amser, o'n i'n codi tua 5.30am i yrru i'r gwaith hefyd.

Yn amlwg, mae pethe wedi newid nawr ein bod ni wedi cael babi, ac mae angen ffeindio'r amser i'r busnes a 'neud yn siŵr ei fod e ddim yn cael ei anwybyddu.

Ond mae'n anodd switsho bant a dweud 'dyna ni am y dydd', achos ti'n meddwl 'os dwi ddim yn gweithio, yn hybu, yn marchnata, yn rhoi mwy o stwff ar y wefan, 'sai am werthu, 'sai am 'neud arian'... Ma'n cymryd lot o ddisgybleth.

...dysgu wrth fynd ymlaen

Catrin: O'n ni'n gweld lot o bobl yn colli eu swyddi o'n cwmpas ni felly 'naethon ni feddwl am ddechre ein busnes ein hunain er mwyn diogelu ein dyfodol. 'Nath e sbarduno i ni ddechrau gwerthu dillad babis ar wefan eBay, oedd yn llwyddiant. 'Naethon ni adael ein swyddi yn 2010, a dechrau ein siop ein hunain yn haf 2011.

'Dyn ni bob amser yn trio pethe gwahanol, ac yn ddiweddar, 'dyn ni wedi newid cyfeiriad 'chydig, a 'ni'n gwerthu rhoddion i bawb nawr. Ond mae wedi bod yn llawer o waith dysgu wrth fynd ymlaen - dwi'n wingio hi lot o'r amser!

Sioned: Do'n i'm yn mwynhau fy swydd gwaith gymaint ag o'n i ar y dechrau - ac roedd y syniad o redeg fy siop fy hun yn apelio. Ond dwi wedi gorfod dysgu gymaint o bethau am redeg busnes yn gyflym iawn!

O edrych yn ôl rŵan, dwi ddim yn siŵr 'swn i 'di 'neud o, o wybod faint o waith ydy o. Ond dwi'n mwynhau. Nes i neidio fewn i'r peth, ond dyna'r ffordd ora' i'w 'neud o, dwi'n meddwl, er mwyn dysgu o'r newydd.

LlanrwstFfynhonnell y llun, Geograph/Derek Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na nifer o siopau bach yn Llanrwst, ond mae nifer yn mynd i drefi mwy fel Llandudno i wneud eu siopa, yn ôl Sioned Davies

...siopa'n lleol

Sioned: Un o'r pethau sy'n ei gwneud hi'n anodd ydy fod llawer o bobl ddim yn gallu gwneud eu holl siopa yn Llanrwst - yn benna' achos does 'na'm banc yn Llanrwst rŵan - ac yn gorfod mynd i Landudno.

Ond 'swn i'n hoffi annog pobl leol i ail-feddwl lle maen nhw'n prynu. Os nad ydy pobl yn prynu gan gwmnïoedd lleol, fydd 'na ddim rhai.

Pan ti'n gwario'n lleol, ti'n gwybod wedyn fod y pres yn mynd yn ôl i bobl leol, yn hytrach na rhywle arall, neu i bocedi un person ar y top.

Catrin: Yn anffodus, mae cadw adeilad siop yn ddrud - mae 'na lot o siopau gwag, yn enwedig mewn lle fel Caerfyrddin, a mae nhw'n mynd a dod mor gloi. Dyna pan 'dyn ni ar-lein.

Maen nhw'n dweud 'shop local, shop small'. Weithiau, mae rhai pobl yn meddwl, os ti'n prynu ar-lein, ti'n prynu gan rhyw beiriant. Ond ry'n ni'n bobl fach a lleol hefyd, felly mae angen cofio am y busnesau lleol ar-lein hefyd.

...cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol

Catrin: Dwi mewn nifer o grwpiau ar Facebook, ble rydyn ni'n 'hoffi' eitemau siopau ein gilydd, neu roi sylw arnyn nhw, sy'n sicrhau fod mwy o bobl yn eu gweld. Mae'n grêt achos mae pawb yn helpu ac yn rhoi hwb i'w gilydd

Sioned: Dwi'n dilyn lot o siopau bach eraill ar Instagram, ac yn gwybod fod yna lot o bobl eraill yn stryglo, ond rydyn ni'n cefnogi ein gilydd.

Mae'r ymgyrch #JustaCard yn ceisio pwysleisio'r pwynt tasai rhywun ond yn prynu cerdyn mewn siop, 'sa fo'n gallu helpu'r perchennog i aros ar agor. Mae popeth yn help!

...y dyfodol

Sioned: Mae'r Eisteddfod Genedlaethol efo ni yn Llanrwst flwyddyn nesa', a ma' Dolig wastad yn amser da.

Dwi'n meddwl fydd y Steddfod yn beth da i Lanrwst a'r ardal, a dwisho aros tan o leia' hynny - os na fydd pethau mor ofnadwy fel mod i ddim yn gallu. Ond bydd rhaid gweld be' sy'n digwydd.

Catrin: Mae'n siŵr mod i'n mynd ar nerfe pawb ar Facebook ar hyn o bryd, achos mod i'n rhannu gymaint o stwff. Ond dwi 'di newid y wefan yn ddiweddar, felly dwi'n trio hyrwyddo'r cynnyrch newydd nawr cyn bod pobl yn dechre siopa 'Dolig.

Da'n ni 'di bo'n llwyddiannus hyd yma, yn y ffordd bo' ni 'di gallu cario 'mlaen. 'Dyn ni 'di cael adegau ofnadwy a rhai grêt, a bob tro ti'n cael cyfnod grêt, mae'n teimlo fel bod yna rywbeth yn dod i stopio pethe rhag symud ymlaen i'r cam nesa'.

Ond ar hyn o bryd, dwi'n gyffrous ar gyfer y dyfodol.