Ailadfer Plasty Bronllys ger Aberhonddu

  • Cyhoeddwyd
Bronllys HallFfynhonnell y llun, Hughes Architects
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neuadd Bronllys yn dyddio'n ôl i oddeutu 1500

Mae penseiri wedi datgelu cynlluniau i droi cyn-bencadlys bwrdd iechyd yn y canolbarth yn ganolfan gynhadledd pum seren.

Roedd y plasty ym Mronllys, ger Aberhonddu, yn arfer bod yn gartref i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys 40 ystafell wely en-suite a dawnsfa newydd.

Bydd cais cynllunio llawn yn cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Powys, ar ran Bronllys Estates Ltd, fis nesaf.

'Buddsoddiad mawr'

Mae cwmni Penseiri Hughes wedi dechrau ar broses rhag-ymgynghorol er mwyn caniatáu perchnogion eiddo ger llaw a chyrff statudol i gyflwyno sylwadau.

Dywedodd Doug Hughes, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni: "Mae hwn yn fuddsoddiad mawr a'r nod yw adfer pensaernïaeth wreiddiol Neuadd Bronllys.

"Mae'r cyflwr y plasty wedi gwaethygu yn ddirfawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Cafodd ei adeiladu oddeutu 1500 a'r adeg hynny Dug Buckingham oedd perchennog yr ystâd.

Yng Ngorffennaf 1920 cafodd y plasty ei agor gan y Brenin Siôr V fel sanatoriwm ar gyfer gwella'r diciâu.