'Modd osgoi' ffrae gwrth-Semitiaeth, medd Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carwyn Jones ar raglen Sunday Politics fod y broblem yn un "oedd modd ei hosgoi yn gyfan gwbwl".

Mae'r Blaid Lafur wedi creu problem "a oedd modd ei hosgoi yn gyfangwbl" dros wrth-Semitiaeth yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Mae'r blaid wedi llunio canllawiau newydd ar wrth-Semitiaeth, sydd wedi'u beirniadu gan rai o arweinwyr Iddewig ac ASau.

Fe gafodd y canllawiau ymddygiad sêl bendith y pwyllgor gweithredol ddydd Mawrth.

Mae'n dweud fod: "gwrth-Semitiaeth yn fath o hiliaeth, a'i fod yn annerbyniol yn y blaid a'r gymuned ehangach".

'Ffrae'

Ond nid yw'n cynnwys yr holl "esiamplau gweithredol" sy'n cael eu nodi yn niffiniad yr International Holocaust Remembrance Alliance's (IHRA) o wrth-Semitiaeth.

Dywedodd Mr Jones ar raglen Sunday Politics fod y broblem yn un "oedd modd ei hosgoi yn gyfangwbl."

"Allai ddim deall pam wnaethon ni ddim derbyn y diffiniad arferol, ond nawr rydym mewn sefyllfa lle mae ffrae o fewn y blaid, sy'n gwbl ddiangen.

"Pam ddim cymryd yr un safbwynt mae pawb arall yn ei ddilyn, a symud ymlaen?"