Angen cyfarwyddwyr i achub canolfan hamdden yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Pwll Harlech
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hamdden Harlech ac Ardudwy eisiau mwy o gymorth gan y gymuned

Mae cyfarwyddwyr canolfan hamdden yng Ngwynedd yn apelio am ffurfio bwrdd newydd er mwyn achub y gwasanaeth.

Fe wnaeth y cwmni di-elw Hamdden Harlech ac Ardudwy (HHA) gymryd yr awenau i redeg y ganolfan hamdden yn 2011 yn sgil toriadau Cyngor Gwynedd.

Er gwaethaf ymdrechion y grŵp i redeg y gwasanaeth a chynnig gwersi nofio i bobl leol, maen nhw'n rhybuddio y gallen nhw orfod cau os na fyddan nhw'n canfod gwaed newydd i redeg y fenter o ddydd i ddydd.

Mewn datganiad dywedodd HHA: "Fe wnaeth adroddiad annibynnol diweddar edrych yn fanwl ar gynllunio i'r dyfodol gan gynnwys rheoli'r uned a'i chyllid.

Fe wnaeth yr adroddiad ddod i'r casgliad fod "newidiadau mawr yn hanfodol os am sicrhau a datblygu'r ganolfan i'r dyfodol".

"Mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion am newidiadau i'r sefydliad. Er mwyn gwireddu'r newidiadau mae'r bwrdd presennol yn edrych am aelodau newydd," meddai.

Byddai colli'r ganolfan yn Harlech yn golygu diswyddo 17 o bobl a byddai 55,000 o wersi nofio blynyddol yn diflannu.

Byddai disgyblion o bum ysgol gynradd leol hefyd yn colli allan ar wersi nofio.

'Gwirfoddolwyr'

Ychwanegodd llefarydd ar ran grŵp HHA: "Heb unrhyw gymorth, nid oes modd gwireddu'r newidiadau ac mae dyfodol y ganolfan yn y fantol.

Yn 2011 roedd y ganolfan dan fygythiad o gau, wrth i Gyngor Gwynedd ddweud y buasai'n arbed £160,000 y flwyddyn.

Mae'r pwll nofio agosaf i Harlech ym Mhorthmadog sy'n daith o 10 milltir.

Mae'r bwrdd yn galw ar bobl "egnïol" a chyfarwyddwyr gwirfoddol di-dâl fyddai'n gallu sortio dyfodol a gofynion presennol y ganolfan.

"Mae pobl sydd gyda phrofiad o gynllunio strategol, rheolaeth weithredol a phrofiad mewn marchnata ac ymwneud a chyllid yn hanfodol," meddai.