Cyhoeddi rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
![Albwm y flwyddyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/3640/production/_102688831_albwmcymraegyflwyddyn2018.jpg)
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi rhestr fer ar gyfer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn.
Yn eu plith mae Gwyneth Glyn, Band Pres Llareggub, Serol Serol, Yr Eira a Gai Toms.
Bydd Blodau Gwylltion, Bob Delyn a'r Ebillion, Mellt, Y Cledrau a Mr Phormula hefyd yn cystadlu am y wobr.
Fe fydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan reithgor o unigolion o'r diwydiant cerddoriaeth, gyda'r enillydd yn derbyn tlws wedi'i gomisiynu'r arbennig gan Ann Catrin Evans.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/76020000/jpg/_76020974_line976.jpg)
Y deg albwm ar y rhestr fer:
Band Pres Llareggub - Llareggub
Blodau Gwylltion - Llifo fel Oed
Bob Delyn a'r Ebillion - Dal i 'Redig Dipyn Bach
Gai Toms - Gwalia
Gwyneth Glyn - Tro
Mellt - Mae'n Hawdd Pan ti'n Ifanc
Mr Phormula - Llais
Serol Serol
Y Cledrau - Peiriant Ateb
Yr Eira - Toddi
![Bendith](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/640/cpsprodpb/166FA/production/_102689819_bendith.jpg)
Bendith ennillodd gwobr Albwm y Flwyddyn yn 2017
Dyma'r pumed tro i'r wobr gael ei chyflwyno, a'r cyn-enillwyr yw Bendith, Sŵnami, Gwenno a The Gentle Good.
Cyhoeddir enw'r enillydd mewn seremoni yn yr Eisteddfod ar ddydd Iau 9 Awst.