Tour de France: Geraint Thomas yn 'gryfach' medd Froome
- Cyhoeddwyd
Mae Chris Froome wedi cyfaddef bod Geraint Thomas yn edrych yn "gryfach" ar hyn o bryd wrth i'r Tour de France gyrraedd yr wythnos olaf.
Mae gan y Cymro fantais o funud a 39 eiliad dros Froome yn nosbarthiad cyffredinol y ras, gyda phum cymal o rasio i fynd cyn y diweddglo ym Mharis ddydd Sul.
Ond mynnodd Froome nad yw'r ddau yn gweld ei gilydd fel gelynion, a'i bod yn "freuddwyd" bod y ddau seiclwr o Team Sky yn arwain y ras.
Ychwanegodd Thomas mai'r "peth pwysicaf" oedd mai "un ohonom ni", ac nid un o gystadleuwyr eraill y ras, oedd yn fuddugol ar y diwedd.
'Dim gelyniaeth'
Mae Froome, sydd wedi ennill y Tour de France bedair gwaith yn barod, yn ceisio cipio'r ras am y pumed gwaith yn ogystal ag ennill y Giro d'Italia a'r Vuelta a Espana yn yr un tymor.
Ond Thomas sydd ar y blaen ar ôl ennill cymalau mynyddig La Rosiere a'r Alpe d'Huez ddeuddydd yn olynol yr wythnos diwethaf.
"Mae'n grêt i gael y cystadleuwyr eraill y tu ôl i ni i ddechrau, ac wedyn wrth gwrs o fy safbwynt i mae'n wallgof, fel taswn i mewn breuddwyd ar hyn o bryd," meddai'r gŵr o Gaerdydd.
"Does dim pwysau, dwi jyst yn mwynhau e ar hyn o bryd. Y peth pwysicaf yw bod un ohonom ni ar ben y podiwm ym Mharis."
Mynnodd Froome y byddai'n "wych" pe bai "dim byd yn newid" rhwng nawr a diwedd y ras.
"Dyw G ddim wedi gwneud yr un camgymeriad hyd yma. O'r wythnos gyntaf, aeth e ddim yn styc mewn bylchau na dim - fel mae'n sefyll fe yw'r cryfaf, fe sydd yn y crys melyn," meddai.
Ychwanegodd Froome nad oedd "unrhyw elyniaeth yn bodoli" rhwng y ddau feiciwr.
"'Dyn ni'n edrych ar y lleill, rheiny sy'n drydydd, pedwerydd, pumed - nhw yw'r rhai allai ein rhoi ni dan bwysau."
Cafodd hynny ei ategu gan Thomas, a ddywedodd fod y ddau'n gorfod canolbwyntio'n gyntaf ar drechu Tom Dumoulin, sy'n drydydd a dim ond 11 eiliad y tu ôl i Froome.
"Os yw'r trydydd safle 10 munud y tu ôl wedyn falle allwn ni [Thomas a Froome] fynd dyn i ddyn a rasio'n gilydd, ond dyw hynny byth yn mynd i ddigwydd."
'Cefnogaeth wych'
Mae'r ras yn cymryd diwrnod o seibiant ddydd Llun, cyn ailgychwyn ym mynyddoedd y Pyreneau ddydd Mawrth a dydd Mercher.
Dyna pryd y gallai pethau newid unwaith eto yn y dosbarthiad cyffredinol a dyna hefyd, meddai Thomas, pam nad yw'n meddwl gormod am fod yn bencampwr eto.
"Yn amlwg 'dych chi'n meddwl ambell waith y byddai'n neis cael hyn ym Mharis ond buan 'dych chi'n anghofio am hynny a phoeni am y diwrnod nesaf achos mae cymaint i fynd eto," meddai.
Mae hefyd wedi profi'r gefnogaeth gartref yng Nghymru, er ei fod yn dweud ei fod yn cadw oddi wrth y cyfryngau cymdeithasol ar y cyfan yn ystod y ras.
"Mae'n wallgof a dwi jyst eisiau canolbwyntio ar y dasg o'n blaenau, ond dwi'n bendant yn cael blas o'r gefnogaeth sydd yn wych."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2018