Nid Caerdydd fydd cartref pencadlys newydd Channel 4

  • Cyhoeddwyd
Channel 4Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Channel 4 wedi cadarnhau nad yng Nghaerdydd y bydd pencadlys y sianel pan fydd yn symud 300 o staff o Lundain.

Ond mae'r ddinas ymhlith tair sydd dan ystyriaeth i fod yn gartref i un o ganolfannau creadigol newydd y sianel.

Bydd y pencadlys yn cael ei leoli yn Birmingham, Manceinion a Salford neu Leeds, ac mae Caerdydd, Bryste a Glasgow ar y rhestr fer ar gyfer sefydlu canolfan greadigol.

Dywed y sianel y bydd yn cynnal trafodaethau pellach gyda chynrychiolwyr y chwe chais cyn gwneud penderfyniad terfynol yn yr hydref.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas: "Tra bod siom amlwg nad yw Caerdydd ar y rhestr fer ar gyfer y pencadlys cenedlaethol, rwy'n falch fod Channel 4 wedi gweld cryfderau sylweddol yng nghais Caerdydd i'n cynnwys ar restr fer gyda dwy o dinasoedd creiddiol eraill y DU ar gyfer Canolfan Greadigol."

Ychwanegodd bod y cam yn cydnabod y talent o fewn y sector creadigol yng Nhaerdydd a'r isadeiledd yn y ddinas "a fyddai'n caniatáu i'r Ganolfan Greadigol ffynnu".

Penderfyniadau 'anodd'

Mae'r cyhoeddiad yn golygu bod ceisiadau Lerpwl, Belfast, Brighton, Newcastle-Gateshead, Nottingham, Sheffield a Stoke-on-Trent i geisio denu canolfan gredigol wedi methu.

Roedd penaethiaid y sianel wedi ymweld â'r 13 ardal ar y rhestr hir wreiddiol yn yr wythnosau diwethaf i asesu'r ceisiadau.

Fe fydd y trafodaethau gyda'r dinasoedd sydd yn dal yn rhan o'r broses yn cael eu harwain ar ran Channel 4 gan eu prif swyddog masnachol, Jonathan Allan.

Dywedodd eu bod "wedi cymryd penderfyniadau anodd iawn ar ba dinasoedd sy'n symud ymlaen i'r cam nesaf" ond yn credu bod y chwe dinas sydd wedi eu dewis yn y sefyllfa orau i gyflawni "gweledigaeth ac anghenion" y sianel i ymestyn ar draws y DU.

Mae disgwyl i'r staff a'r gwaith cynhyrchu symud yn ystod 2019.