Pryder am iechyd meddwl ffermwyr achos ansicrwydd Brexit

  • Cyhoeddwyd
Ffermwr yn bwydoFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae yna bryder y bydd cynnydd mewn problemau iechyd meddwl yn y gymuned amaethyddol oherwydd yr ansicrwydd sydd ynghlwm â'r broses Brexit.

Bydd y pwnc yn cael ei drafod mewn seminar ar stondin Undeb Amaethwyr Cymru ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd ddydd Iau.

Yn ôl Anne Thomas sydd yn gweithio fel nyrs yn yr Adran Cleifion Allanol yn Ysbyty Dolgellau, mae hi wedi cael "braw o weld gwir faint y broblem" yn yr ardal.

Mae'r Ysbyty yn gweithio mewn partneriaeth gyda Farming Community Network (FCN) sydd yn rhedeg llinell gymorth ar gyfer ffermwyr sydd yn dioddef problemau iechyd meddwl.

"Mae ffermwyr a'u teuluoedd yn dioddef," meddai Ms Thomas.

"Un o'r prif bethau ar feddwl pawb ydy Brexit a'r ansicrwydd o beth sydd yn mynd i ddigwydd. Mae hynny yn bryder gwirioneddol. Mae problemau iechyd meddwl yn debygol o gynyddu."

Gwirfoddolwyr

Mae yna alw am fwy o wirfoddolwyr Cymraeg, sydd â phrofiad o amaethyddiaeth, i wirfoddoli gyda llinell gymorth FCN.

Yn ôl Anne Thomas, mae ffermwyr yn chwilio am "gymorth ymarferol" cyn cael cymorth am eu hanghenion emosiynol.

Mae cardiau dwyieithog FCN wedi cael eu dosbarthu yn yr ardal.

Mae'r llinell gymorth ar gael ar 03000 111999 rhwng 07:00 a 23:00, saith diwrnod yr wythnos.