'Camgymeriad' rhyddhau enwau ffermydd difa moch daear

  • Cyhoeddwyd
Mochyn Daear

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r bai ar "gamgymeriad gweinyddol" yn dilyn rhyddhau enwau ffermydd yng Nghymru lle mae moch daear wedi cael eu difa.

Fe wnaeth y llywodraeth gyhoeddi'r wybodaeth yn dilyn cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Mae un mudiad protest wedi cyhoeddi enwau tair fferm ar wefan Facebook, ble maen nhw'n honni fod Llywodraeth Cymru wedi difa pum mochyn daear yno'r llynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "adolygu ein dulliau ar frys yn dilyn y camgymeriad".

'Prawf diwerth'

Mae'r grŵp ymgyrchu yn honni eu bod wedi gallu adnabod enwau a lleoliad y ffermydd lle digwyddodd y difa honedig.

Mae'r neges ar Facebook yn dweud: "Fe allwn nawr ddatgelu enw'r tair fferm ble mae Llywodraeth Cymru wedi lladd pum mochyn daear yn 2017 ar gost o £380,000.

"Fe wnaeth y moch daear brofi'n bositif drwy ddefnyddio prawf diwerth, ond ymhellach yn ystod post mortem daeth cadarnhad negatif am afiechyd diciâu.

"Mae dogfennau gafodd ei rhyddhau o ganlyniad i gais rhyddid gwybodaeth yn dangos y gwaith manwl a'r cynllunio gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar gyfer pob un o'r ffermydd, gan gynnwys eu henwau."

'Camgymeriad'

Mae'r grŵp wedi amddiffyn cyhoeddi'r enwau gan ychwanegu gan gyhuddo Llywodraeth Cymru o fod yn anghyfrifol am "wastraffu arian cyhoeddus" ac am "ddilyn cwrs polisïau arbenigwyr ar beth sy'n lledaenu diciâu."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "O ganlyniad i gamgymeriad gweinyddol, fe gafodd na ddogfen ei hanfon allan heb ddileu elfen o wybodaeth bersonol, wrth i ni ymateb i gais rhyddid gwybodaeth.

"Rydym yn adolygu ein dulliau ar frys yn dilyn y camgymeriad.

Roedd difa moch daear yng Nghymru'r llynedd yn rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i daclo diciâu yng nghefn gwlad.