Geraint Thomas yn arwain Le Tour gyda tri chymal ar ôl
- Cyhoeddwyd
Mae Geraint Thomas wedi llwyddo i ddal ar y crys melyn yn y Tour de France gyda thri chymal yn weddill o'r ras.
Ar ddiwedd cymal 18, llwybr fflat rhwng Trie-sur-Baïse a Pau, mae Thomas yn parhau 01:59 ar y blaen i Tom Dumoulin sy'n ail yn y dosbarthiad cyffredinol.
Y gwibiwr Arnaud Demare enillodd y cymal.
Gyda 4.5km yn weddill o'r cymal, roedd Thomas wedi dal yn ôl rhag ymuno gyda'r gwibwyr, felly'n osgoi'r risg o unrhyw wrthdrawiad.
Dydd Gwener bydd o bosib yr her fwyaf i Thomas, wrth i gymal 19 olygu mwy o ddringo mynyddoedd rhwng Lourdes a Laruns.
Mae'r pencampwr presennol, Chris Froome yn parhau yn y trydydd safle'n gyffredinol, 30 eiliad yn fwy ar ei hol hi.
Bydd y Tour de France yn dod i ben ddydd Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2018