Geraint Thomas yn ymestyn ei fantais yn y Tour de France
- Cyhoeddwyd

Mae Geraint Thomas wedi ymestyn ei fantais yn y crys melyn
Mae Geraint Thomas wedi cymryd cam mawr tuag at ennill y Tour de France ar ôl gorffen yn drydydd yn y 17eg cymal.
Gyda 2km i fynd fe ddilynodd Thomas ymosodiad Tom Dumoulin, gan adael ei gyd-seiclwr Sky Chris Froome ar ei hôl hi.
Llwyddodd y Cymro i agor bwlch arall rhyngddo ef a Dumoulin tua diwedd y ras, gan orffen y tu ôl i'r enillydd Nairo Quintana a'r Gwyddel Dan Martin.
Mae'n golygu bod gan Thomas bellach fantais o 1'59" dros Dumoulin, sydd wedi codi i'r ail safle, yn y dosbarthiad cyffredinol.
Gorffennodd Froome 1'36" y tu ôl i enillydd y cymal, gan olygu ei fod yn llithro i'r trydydd safle yn y dosbarthiad cyffredinol, 2'31'' y tu ôl i Thomas.
Roedd y ras ddydd Mercher ym mynyddoedd y Pyreneau yn un fer - 65km yn unig - ond yn cynnwys tair dringfa serth ac yn gorffen ar gopa'r Col du Portet.
Tri chymal cystadleuol yn unig sydd ar ôl cyn i'r ras ddod i ben ddydd Sul ym Mharis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2018