Trefniadau ar y gweill i groesawu Geraint Thomas yn ôl

  • Cyhoeddwyd
BaneriFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Eisoes mae baneri wedi eu gosod y tu allan i Gastell Caerdydd yn dathlu'r fuddugoliaeth

Mae trafodaethau wedi dechrau ynglŷn â chynnal dathliadau swyddogol i groesawu Geraint Thomas yn ôl i Gaerdydd ar ôl ei fuddugoliaeth hanesyddol yn y Tour de France.

Thomas, 32, yw'r Cymro cyntaf i ennill y ras, ac fe gafodd ei goroni'n bencampwr ddydd Sul.

Dywedodd Caro Wild, aelod cabinet Cyngor Caerdydd ar drafnidiaeth, fod trafodaethau ar y gweill i wneud "rhywbeth anhygoel" i groesawu Geraint yn ôl.

"Rydym mewn trafodaethau gyda Beicio Cymru a Llywodraeth Cymru, ond rydym hefyd am glywed beth mae'r cyhoedd am ei weld.

"Rydym wedi clywed pa mor ddiymhongar yw e, a'i fod hefyd am weld 'chydig o normalrwydd, felly bydd angen gwneud y peth yn iawn."

Ychwanegodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod am weld dathliad swyddogol, ac y byddai swyddogion y Senedd yn mynd ati i gynnal trafodaethau.

"Yn sicr byddwn am wneud hyn. Mae'n un o'r uchafbwyntiau o ran hanes chwaraeon yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas gyda'r Ddraig Goch ar ei ysgwyddau ar y podiwm

Yn y cyfamser, mae swyddogion yn Sir Gaerfyrddin yn bwriadu gofyn i'r pencampwr am ganiatâd i ailenwi felodrom newydd Caerfyrddin yn Felodrom Geraint Thomas.

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Gâr, Emlyn Dole, fod gan y beiciwr gysylltiadau teuluol gydag ardal Bancyfelin i'r gorllewin o Gaerfyrddin.

"Mae hwn yn llwyddiant anhygoel ond mae yna glod hefyd i'r modd mae o wedi ymddwyn dros y tair wythnos diwethaf," meddai.

Mae disgwyl i'r pencampwr gyrraedd yn ôl i Brydain ddydd Llun, ond does dim sôn eto ynglŷn â phryd y bydd yn ôl yng Nghymru.

Disgrifiad,

Tad Geraint, Howell Thomas (yn y canol) a'r teulu wrth eu boddau

Dywedodd ei fam Hilary: "Dwi ddim yn credu ei fod e'n deall yn iawn beth mae e wedi llwyddo i wneud, a bydd e ddim yn deall y gefnogaeth sydd iddo o un pen o Gymru i'r llall."

Wedi buddugoliaeth hanesyddol Geraint Thomas yn y Tour de France dywedodd ei dad, Howell Thomas nad oedd e'n credu y byddai ei fab yn ennill.

Wrth siarad â'r Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru cyn i'w fab selio'r fuddugoliaeth ddydd Sul, dywedodd Mr Thomas: "Do'n i byth yn meddwl bydde fe'n ennill - ro'n i'n gobeithio byddai fe ar y podiwm, ond ennill - waw!"

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas yw'r Cymro cyntaf i ennill y Tour de France

Mae cefnogwyr y gamp yn hyderus y daw diddordeb newydd mewn beicio yng Nghymru yn dilyn ei fuddugoliaeth.

Eisoes mae 'na flwch post aur yng Nghaerdydd i gofnodi llwyddiant Geraint Thomas yng Ngemau Olympaidd Llundain, ac mae ymgyrch wedi dechrau i geisio cael un melyn hefyd yn ei ddinas enedigol.

Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud y byddan nhw yn trafod yn fuan sut a phryd y byddan nhw'n croesawu'r pencampwr yn ôl i'r brifddinas.