Geraint Thomas yn 'falch' o allu rhoi Cymru 'ar y map'
- Cyhoeddwyd
Mae Geraint Thomas wedi dweud ei fod yn "falch" bod ei fuddugoliaeth yn y Tour de France wedi llwyddo i roi Cymru "ar y map".
Cafodd Thomas, 32, ei goroni'n bencampwr ddydd Sul o flaen y Champs-Élysées ym Mharis, y Cymro cyntaf i ennill ras seiclo fwya'r byd.
Wrth adlewyrchu ar ei lwyddiant fe dalodd deyrnged i reolwr cyffredinol Team Sky, Syr Dave Brailsford, gan ei ddisgrifio fel "ail dad" iddo.
Ond gyda'i gytundeb â Sky yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn, dywedodd wrth BBC Cymru ei fod ar hyn o bryd yn "agored i gynigion eraill".
'Gwerthfawrogi'r gefnogaeth'
Yn ystod cymal olaf y ras, ac wrth iddo gamu i'r podiwm i gael ei goroni, bu Geraint Thomas yn chwifio baner y Ddraig Goch i ddathlu ei fuddugoliaeth.
"Mae pawb o Gymru'n gwybod [y teimlad], mae e jyst yn anodd rhoi mewn i eiriau. Dwi'n falch iawn," meddai'r gŵr o Gaerdydd.
"Mae'n grêt i gynrychioli Cymru, achos o fewn seiclo does dim llawer yn gwybod am y wlad, felly mae'n dda i'w roi ar y map. Mae e jyst yn wallgof."
Mae disgwyl i Thomas ddychwelyd i Gymru dros y dyddiau nesaf, ac mae trafodaethau eisoes ar y gweill yn ei ddinas enedigol i nodi ei lwyddiant.
"Byddai unrhyw beth yn neis," meddai. "Mae jyst gweld yr holl ymateb ar Twitter wedi bod yn wych, a dwi wir yn gwerthfawrogi'r holl gefnogaeth."
Mae ei fuddugoliaeth hefyd wedi ysbrydoli rhai i alw ar Gymru i geisio cynnal rhai o gymalau'r Tour de France yn y dyfodol, gan fod y ras bellach yn teithio dramor yn achlysurol.
"Byddai hynny'n wych. Dwi wedi clywed sôn am y peth, a byddai'n grêt tase fe'n gallu digwydd," meddai Thomas.
Brailsford yn 'ail dad'
Un o'r prif ddylanwadau ar Geraint Thomas a Team Sky yn ystod y ras oedd Brailsford, sydd yn hanu o Ddeiniolen yng Ngwynedd yn wreiddiol.
Ac mae Thomas yn dweud fod yr hyfforddwr wedi bod yn gefn mawr iddo yn ystod yr wythnosau diwethaf wrth iddo frwydro i ennill ei Grand Tour cyntaf.
"Dwi wedi nabod e ers mod i'n 17 - dwi'n sicr wedi gweld mwy ohono fe na mam a dad ers mod i'n 17!" meddai'r beiciwr.
"Mae e bron wedi bod yn ail dad i mi mewn ffordd, a bos. 'Dyn ni wedi bod drwy dipyn.
"Yn amlwg mae e'n dod o ogledd Cymru, felly mae'r cysylltiad yna hefyd. Ni'n wlad fach, felly unrhyw bryd mae unrhyw un yn gwneud yn dda 'dyn ni wastad yn cefnogi'n gilydd."
Gyda Thomas dal heb arwyddo'r cytundeb newydd gafodd ei gynnig iddo gan Sky, fodd bynnag, dyw hi dal ddim yn sicr dros ba dîm y bydd y Cymro'n seiclo'r flwyddyn nesaf.
"Yn ffodus nes i ddim arwyddo cyn y Tour!" meddai.
"Mae'n gweithio i mi ar hyn o bryd [yn Sky], nes i ennill y Tour. Ond dwi'n agored i gynigion eraill.
"Wnawn ni weld beth sy'n digwydd yn yr wythnosau nesaf. Dwi ddim jyst eisiau mynd i unrhyw dîm arall, achos y prif reswm nes i ennill eleni oedd oherwydd cryfder y tîm yn y ras."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2018