Cyn-reolwr swyddfa AS Llafur yn ddieuog o dwyll
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-reolwr swyddfa i Aelod Seneddol Llafur o Gymru wedi ei chanfod yn ddieuog o dwyll.
Roedd Jenny Lee Clarke wedi ei chyhuddo o ffugio llofnod AS Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris pan oedd hi'n gweithio iddi yn 2015.
Clywodd y llys bod Ms Clarke wedi rhoi codiad cyflog i'w hun - o £37,000 y flwyddyn i £39,000 - a lleihau ei horiau gwaith wythnosol heb gael ei hawdurdodi.
Ond fe wnaeth Ms Clarke wadu'r cyhuddiadau yn ei herbyn, gan ddweud bod Ms Harris wedi dweud wrthi am lofnodi'r dogfennau.
'Casáu gwaith papur'
Yn ystod yr achos clywodd Llys y Goron Caerdydd bod IPSA, y corff sy'n gyfrifol am gyflogau seneddol, wedi derbyn ffurflen gan Ms Clarke yn lleihau ei horiau wythnosol o 40 i 37.5.
Roedd ei chyflog hefyd wedi ei newid o £37,000 i £39,000, a hynny o 16 Gorffennaf 2015 ymlaen, gyda llofnod honedig gan Ms Harris ar y ffurflen.
Dywedodd yr erlyniad fod Ms Harris, gafodd ei hethol yn ddirprwy arweinydd Llafur Cymru yn gynharach eleni, "erioed wedi gweld y ffurflen yma o'r blaen" ac "erioed wedi'i arwyddo".
Ond yn ôl yr amddiffyniad, roedd Ms Harris yn "casáu gwaith papur" a byddai Ms Clarke yn aml yn arwyddo ffurflenni seneddol yn enw Ms Harris.
Dywedodd Ms Clarke ei bod wedi arwyddo'r ffurflen dan sylw, a "ffurflenni eraill", ar ran Ms Harris.
"Beth bynnag oedd hi angen, roeddwn yn gwneud beth bynnag oedd rhywun yn ofyn i mi ei wneud," meddai.
Ychwanegodd fod Ms Harris yn dweud wrthi: "Arwydda fe a'i anfon e."
Yn ystod yr achos fe wnaeth Jenny Clarke gyhuddo Carolyn Harris o ddefnyddio term sarhaus tuag ati i ddisgrifio ei rhywioldeb pan oedd y ddwy ohonyn nhw'n gweithio i gyn-AS yr etholaeth, Sian James.
Dywedodd Ms Harris nad oedd hi'n cofio defnyddio'r term "dyke" i ddisgrifio Ms Clarke, ond os oedd hi wedi, mai "cellwair" yn unig oedd hi.
Fe wnaeth Ms Clarke hefyd gyhuddo Ms Harris o ymosod arni'n "dreisgar" ar un achlysur yn y swyddfa, rhywbeth mae Ms Harris wedi ei ddisgrifio fel honiad "cwbl ffug".
Cafodd Ms Clarke ei chanfod yn ddieuog o'r holl gyhuddiadau yn ei herbyn.
Wrth ymateb i'r dyfarniad dywedodd Ms Harris: "Drwy gydol fy mywyd dwi wastad wedi bod yn falch o wneud beth dwi'n meddwl sy'n iawn.
"Fe wnes i weithredu yn unol â chanllawiau IPSA. Rydw i'n parchu dyfarniad y llys."