Kinnock: Angen i Corbyn 'wneud mwy' ar wrth-Semitiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Jeremy Corbyn "osod esiampl" er mwyn atal argyfwng gwrth-Semitiaeth y Blaid Lafur, yn ôl un Aelod Seneddol o Gymru.
Dywedodd AS Aberafan, Stephen Kinnock, fod yn rhaid i arweinydd ei blaid wneud mwy nag ymddiheuro am ymddangos ar lwyfan gydag un o oroeswyr yr Holocost wnaeth gymharu Israel gyda Natsïaeth.
Daw sylwadau Mr Kinnock ar ôl iddo ddod i'r amlwg fod Mr Corbyn wedi mynychu cyfarfod yn 2010 ar y testun 'Camddefnydd o'r Holocost ar gyfer Dibenion Gwleidyddol'.
Dywedodd Mr Corbyn fod yna safbwyntiau gafodd eu mynegi nad oedd yn eu "derbyn nac yn eu cymeradwyo".
"Yn y gorffennol, mewn ymgais i sicrhau cyfiawnder i bobl Palestina a heddwch yn Israel/Palestina, rwyf ar adegau wedi ymddangos ar lwyfannau gyda phobl sydd â daliadau rwyf yn llwyr wrthwynebu," meddai Mr Corbyn.
"Rwy'n ymddiheuro am y pryder mae hyn wedi ei achosi."
Dywedodd Mr Kinnock wrth raglen Good Evening Wales y BBC nad oedd yn credu fod yr ymddiheuriad yn mynd yn ddigon pell.
"Unwaith rydym wedi cael gwybod yn glir gan Jeremy ei fod yn deall fod y sylwadau yn wrth-Semitaidd, rwy'n credu fod hyn angen mwy nag ymddiheuriad am y niwed y gallai hyn fod wedi ei achosi.
"Mae hyn yn fater o arweinyddiaeth, ei allu i roi terfyn ar y sefyllfa ofnadwy rydym yn canfod ei hunain ynddo.
"Rwy'n teimlo ar hyn o bryd fod yr arweinyddiaeth yn palu twll i'w hunain.
"Mae angen rhoi stop ar hyn ac mae angen eglurder beth ddigwyddodd yn y cyfarfod yn 2010... ac mae agen rhoi terfyn ar yr ymchwiliad mewnol sy'n cael ei gynnal i Ian Austin a Margaret Hodge."
Yn y cyfamser, mae AS Pontypridd Owen Smith, wnaeth herio Mr Corbyn am yr arweinyddiaeth, wedi dweud bod Llafur wedi eu clwyfo gan yr honiadau o wrth-Semitiaeth yn eu herbyn.
Fe wnaeth Mr Smith drydar fod y blaid yn euog o hunan-niweidio.