Dylanwad y Gymraeg ar y Saesneg: Eich enghreifftiau chi
- Cyhoeddwyd
Mewn erthygl ddiweddar ar Cymru Fyw, 'Over by 'ere!': Dylanwad y Gymraeg ar y Saesneg, fe wnaeth Cennard Davies, cyn-bennaeth Canolfan Astudiaethau Iaith Prifysgol Morgannwg, rannu nifer o enghreifftiau o ddylanwad strwythur a geirfa'r Gymraeg ar iaith Saesneg ardal y cymoedd.
Fe wnaethon ni ofyn i chi ymateb gyda'ch enghreifftiau chi o hyn ac fe wnaeth rhaglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru roi sylw i'r ffenomenom hefyd ddydd Mercher, Awst 2.
Dyma rai o'r sylwadau wnaethon ni eu derbyn ar e-bost, Twitter a Facebook:
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Sawl un arall fel Nerys Bowen sydd wedi clywed rhywun yn holi am "big heads" ar ôl noson fawr?
Daeth e-bost bron yn syth gan Sian Teifi sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon ond sydd â'i gwreiddiau yn y de.
Meddai Sian: "Ganed Mam a'i mam hithau yn Y Rhondda, ac fe ddysgodd Mam y Gymraeg er mwyn magu 'mrawd a finne yn yr iaith (cawsom ein geni yng Ngheredigion).
"Yna, er syndod, ac ar yr un cyflymder â ni'r plant, dysgodd fy Mam-gu (mam Mam) y Gymraeg hefyd. Roedd fy Nhad-cu yn Gymro Cymraeg, ond Saesneg oedd iaith yr aelwyd yn Y Rhondda.
"Roedd gan fy Mam-gu gymaint o ddywediadau fel y rhai a enwir yn eich erthygl.
"Yn eu plith - 'Do you think I'm dull?' (dwl). 'Lovely jibbons on that salad' (shibwns). 'Pull the 'angins" (tynna'r llenni) ac 'I'm off to town to do my messages' (mynd i wneud neges - sef siopa).
"Yr un olaf yn rhyfedd i mi, ond roedd teulu pell fy Mam-gu yn dod o Gorris, ac felly mae'n debyg bod rhai ymadroddion mwy Gogleddol wedi dod i'r pair yn rhywle!"
Ar Twitter fe wnaeth Jason Morgan rannu'r berl fach yma am gyfieithu picio i "to pick":
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ar e-bost eto, cysylltodd Gaynor Walter-Jones, o Rhiwbeina Caerdydd gyda'r stori yma:
"Dw i'n cofio'r gŵr yn mynd â chloc i gael 'i drwsio rywdro a dweud wrth berchennog y siop, "One of the fingers has dropped off"! Wrth reswm, roedd y dyn yn edrych yn hurt arno fe!!"
Cysylltodd Mair Rees o Gasnewydd ar e-bost hefyd gan ddweud:
"Byddai Mam, a oedd yn uniaith Saesneg ac yn hanu o ardal y dociau Abertawe, yn defnyddio nifer o'r esiamplau hyn.
"Roedd hi hefyd yn defnyddio'r gair maldod yn rheolaidd, naill ai'n gadarnhaol: 'He likes a bit of maldod' (spoiling), neu'n negyddol 'It's a load of maldod' (nonsense).
Roedd Dr. Bethan M. Jenkins yn awyddus i rannu ei phrofiadau hi o egluro fod "your phone is singing" tra'n byw yn yr Alban ar Twitter:
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cysylltodd Siân Evans, o Gaerdydd gyda'r engreifftiau yma:
"Ym mhentre Penclawdd Bro Gwyr, os oedd perthynas rhwng dyn a dynes yn chwalu, y dweud yn y pentre fydde, 'She put him to go'."
Cynigodd Eirlys Griffiths, o Dywyn, Gwynedd, yr enghraifft yma:
'Don't laugh on top of my head.'
A mae Emily Hammett o Abertawe yn gofyn:
"Ydy 'it's no odds to me' yn un? H.y. Sdim ots da fi..."
Ar Facebook gwnaeth llawer ohonoch ymateb gan gynnwys Emyr Gruffydd wnaeth gyfaddef iddo ef ei hun ddefnyddio rhai o'r ymadroddion canlynol:
" 'He/she's belonging to me' yn hytrach na 'related', a 'Remember me to her' yn hytrach na 'give her my regards'. Fydda i'n defnyddio'r ddau heb feddwl!"
Hefyd ar Facebook, wnaeth Ler Morgan gyfaddef iddi ofyn am 'lapping paper' mewn siop yng Nghonwy. A wnaeth Huw K Williams gynnig yr enghraifft 'Can I pull a picture?'
Cawsom ebost gan Siriol Lewis o Dalsarnau yn dweud iddi glywed am fachgen o'r ardal yn cael ei ddanfon i'r barbwr ac yn gofyn "Can you break my hair?"
Mae Ceri o Gaerdydd yn awgrymu fod y defnydd o "hellish" yng Ngheredigion, er enghraifft "these chips are hellish good", yn dod o'r Gymraeg - "uffernol o dda".
"I'm going up the shop" ac "I'm cleaning the veg" , yn lle "to the shop" a "peeling the veg", oedd enghreifftiau Jeanette Phillips o Hook ger Hwlffordd tra bod Huw Evans o Ddyffryn Conwy yn dweud ei fod wedi clywed sawl deheuwr yn cyfeirio at dwyni tywod fel "twmps" (twmpathau) ac angladd fel "tymp-up".
Yn ôl ar Twittter, roedd Jason Morgan yn awyddus i atgoffa pawb taw nid dim ond yng nghymoedd y de mae clywed dywediadau fel hyn.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Faint o bobl sydd wedi clywed gogleddwyr di-Gymraeg yn dweud "bechod" a "panad"?
Yn ôl Gwyn Griffiths o Crewe, mae ei wraig, sy'n Saesnes, wedi drysu cydweithwyr sawl gwith drwy holi: "Does anyone want a paned?". A hynny yn Stoke-on-Trent.
A roedd Derec Rees yn awyddus i ddod â chysylltiad amaethyddol i'r ddadl. Meddai:
"Ambell i ffermwr mewn sawl ardal a sawl oes yn mynd mas 'to kill the hay' (lladd gwair).."
"Can I borrow the school?" meddai gŵr Liz Evans am fenthyg ysgol (ladder).
Ac mae John Owen o Rhuthun yn cofio stori gan ei fodryb oedd yn gweini i "fyddigions" am forwyn fach, ar ôl swper a oedd yn cynnwys pwdin reis, yn gofyn "May I scratch the dish ma'm?"
Nôl i Twitter ac roedd gan Neil Wyn stori o'i blentyndod:
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae "keep the dishes" am gadw'r llestri ar ôl eu golchi a'u sychu i'w weld yn arferiad cyffredin.
Ond Geraint Lovgreen sydd â'r gair olaf gyda'r hanes fach yma:
"Roedd Mam yn nyrsio yn ysbyty plant Lerpwl a dywedodd wrth y plant ar ddiwedd dydd am gadw eu teganau 'you can keep your toys now' a'r plant yn meddwl y bysan nhw'n cael mynd â'r teganau adre!"