Môr-wenoliaid prin yn magu oddi ar arfordir Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Môr-Wenoliaid GwridogFfynhonnell y llun, Chris Gomersall/RSPB
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dirywiad yn niferoedd y môr-wenoliaid gwridog wedi ysgogi nifer o ymgyrchoedd i'w diogelu

Am y tro cyntaf ers 2006, mae môr-wennol wridog wedi magu'n llwyddiannus ar ynys greigiog oddi ar arfordir Ynys Môn.

Roedd yr adar yn arfer cael eu gweld ar hyd a lled Cymru, ond bellach mae'r niferoedd wedi gostwng, yn rhannol o ganlyniad i'w hela ar gyfer deunydd hetiau ffasiynol.

Mae'r dirywiad wedi ysgogi nifer o ymgyrchoedd i'w diogelu, gyda'r pwyslais yng Nghymru ar adfer y boblogaeth ar Ynysoedd y Moelrhoniaid.

Ganwyd dau gyw ar yr ynysoedd eleni, ac fe hedodd y cyntaf o'r nyth ddydd Llun.

'Braf gweld llwyddiant'

Dywedodd Ian Simms o RSPB Cymru nad oes modd "gorbwysleisio'r newyddion yma".

"Rydym wedi bod yn gweithio i geisio gwarchod y môr-wenoliaid ar Ynysoedd y Moelrhoniaid ers sawl blwyddyn bellach," meddai Mr Simms.

"Mae bridio rhwng y môr-wenoliaid gwridog wedi bod yn amrywiol dros y blynyddoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ynysoedd y Moelrhoniaid yn hanfodol o ran lle i adar sy'n mudo o orllewin Affrica i nythu yn y DU ac Iwerddon

Fel rhan o'r gwaith cadwraethol dan faner prosiect adfer LIFE yr Undeb Ewropeaidd, mae dau warden yn byw ar Ynys y Moelrhoniaid.

Maen nhw'n cynllunio blychau nythu a nifer o brosiectau eraill er mwyn ceisio denu mwy o fôr-wenoliaid gwridog i'r nythfa.

Eleni fe wnaeth y cywion ddeor ar 10 Gorffennaf, ac roedd disgwyl iddyn nhw hedfan y nyth ddechrau Awst - fe y gwnaeth y cyntaf o'r cywion.

Gobaith cynyddu niferoedd

Mae'r wardeiniaid hefyd yn defnyddio sawl dull i gadw ysglyfaethwyr i ffwrdd, gan gynnwys dychrynyddion adar môr ac uchelseinydd sy'n canu cân y wylan gefnddu leiaf.

Un o'r wardeniaid ydy Ben Dymond, sy'n dweud ei bod hi'n "braf i weld llwyddiant y prosiect".

"Dwi'n meddwl mai ein modelau ffug o fôr-wenoliaid gwridog sy'n gyfrifol!" meddai.

"Mae'r rheiny'n rhoi'r argraff fod 'na fôr-wenoliaid gwridog yn nythu yma. Mae'n gwneud iddyn nhw feddwl bod hwn yn le da i nythu."

Fel rhan arall o'r gwaith, mae'r ynys hefyd yn cael ei monitro o ran llygod mawr gan fod nifer fechan o lygod mawr yn gallu difetha nythfa mewn dim o amser.

Mae Ynysoedd y Moelrhoniaid yn hanfodol o ran lle i adar sy'n mudo o orllewin Affrica i nythu yn y DU ac Iwerddon.

Mae'r adar yn cyrraedd o ganol mis Mai ar gyfer nythu. Y gobaith ar ddiwedd prosiect LIFE, sy'n bum mlynedd o hyd, yw cynyddu nifer y môr-wenoliaid gwridog sy'n magu ar draws y DU i isafswm o 120 o barau.

Ymysg y llefydd eraill ble mae modd eu gweld yn y DU, mae arfordir Northumberland a'r Firth of Forth - tra fod niferoedd sylweddol yn nythu dros y môr yng Ngweriniaeth Iwerddon.