Gwrthod parôl i lofrudd Lynette White ddwywaith

  • Cyhoeddwyd
Jeffrey Gafoor
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Jeffrey Gafoor ei ganfod yn euog o lofruddio Lynette White yn 2003

Daeth i'r amlwg fod llofrudd Lynette White yng Nghaerdydd 30 mlynedd yn ôl wedi cael ei wrthod am barôl ddwywaith.

Cafodd Jeffrey Gafoor ei garcharu am y llofruddiaeth yn 2003.

Yn wreiddiol fe gafodd tri dyn arall eu carcharu am y drosedd cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau gan y Llys Apêl.

Fe gafodd Gafoor ei garcharu am oes gyda gorchymyn iddo dreulio o leia' 13 mlynedd dan glo. Daeth y cyfnod yna i ben yn 2016.

Fe wnaeth gais am barôl yn Hydref 2015, ac eto ym mis Mawrth eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd Parôl wrth BBC Cymru: "Gallwn gadarnhau na wnaeth panel o'r bwrdd gymeradwyo rhyddhau Mr Jeffrey Gafoor yn dilyn gwrandawiad ym Mawrth 2018.

"O dan y ddeddfwriaeth bresennol, bydd Mr Gafoor yn gymwys am adolygiad pellach ymhen dwy flynedd."

Cafodd ei gais cyntaf am barôl ei wrthod yn Hydref 2015 mewn 'gwrandawiad ar bapur'.

Wrth ddedfrydu Gafoor yn 2003 dywedodd y barnwr ei fod "wedi caniatáu i ddynion dieuog fynd i'r carchar" am drosedd yr oedd yn gwybod ei fod yn gyfrifol amdani.

Hanes yr achos

Cafodd Ms White, oedd yn 20 oed, ei thrywanu mwy na 50 o weithiau mewn fflat yn ardal dociau Caerdydd yn 1988.

Aeth pump o ddynion gerbron llys yn 1990 wedi'u cyhuddo o'i lladd.

Cafodd tri ohonyn nhw - Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller - eu carcharu ar gam cyn cael eu rhyddhau ar apêl yn 1992.

Yn 2003 fe wnaeth Heddlu De Cymru ddefnyddio technoleg DNA newydd i'w harwain at y llofrudd go iawn.

Plediodd Gafoor yn euog o'i llofruddio mewn ffrae dros £30.

Yn gynharach eleni bu galwad am newid y gyfraith fel bod troseddwyr a wnaeth ganiatáu i bobl ddieuog fynd i'r carchar am eu troseddau nhw gael eu dedfrydu yn llymach.