Cau'r hen bont Hafren oherwydd salwch staff
- Cyhoeddwyd
Mae salwch ymhlith staff Pont Hafren ar yr M48 wedi arwain at gau'r ffordd i gyfeiriad y gorllewin.
Penderfynodd yr Asiantaeth Priffyrdd gau'r tollbyrth ar y bont er diogelwch i staff a gyrwyr.
Y cyngor i deithwyr yw i deithio i'r ail bont, sy bellach wedi ei hail-enwi'n Bont Tywysog Cymru.
Mae disgwyl i'r ffordd barhau ynghau tan 14:00 ddydd Sadwrn.