Adam Price AC yn galw am newid enw Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Adam Price

Dylai Plaid Cymru newid ei henw i New Wales Party mewn ymgais i ddenu mwy o bleidleiswyr, yn ôl Adam Price.

Credai Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr fod angen i'r blaid greu "stori o optimistiaeth a gobaith" wrth anelu am fuddugoliaeth yn etholiadau 2021 a 2026.

Mewn darn a ysgrifennodd ar gyfer y Western Mail, dywedodd Mr Price y byddai newid yr enw yn arwydd mai Plaid Cymru "yw'r blaid ar gyfer dyfodol Cymru".

Mae Mr Price yn herio Leanne Wood a Rhun ap Iorwerth am arweinyddiaeth y blaid, ac mae disgwyl iddyn nhw gyhoeddi'r enillydd ar 29 Medi, wythnos cyn cynhadledd y blaid yn yr Hydref.

Dywedodd Mr Price fod cyn-arweinydd y blaid, Dafydd Wigley, wedi defnyddio'r term "New Wales Party" cyn etholiad cyntaf y Cynulliad yn 1999.

Fe gyfeiriodd hefyd at adolygiad gan y blaid ar ôl etholiad 2011, lle daeth cyfnod Plaid Cymru yn y llywodraeth fel rhan o glymblaid â Llafur i ben.

'Plaid i Gymru gyfan'

"Edrychodd hwnnw [yr adolygiad] ar greu enw newydd Saesneg er mwyn dangos ein bod ni'n blaid i Gymru gyfan," meddai.

"Ond beth am enw dwyieithog i ddangos mai ni yw'r blaid ar gyfer dyfodol Cymru?"

Ni wnaeth Mr Price gynnig fersiwn Cymraeg o'r enw yn yr erthygl.

Dywedodd Mr Price fod Plaid Cymru angen dysgu gan "symudiadau ymylol poblogaidd", o'r blaid Lafur dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn, i fuddugoliaeth Donald Trump yn etholiadau arlywyddol UDA.

Ychwanegodd: "Mae angen i ni greu poblyddiaeth radical Gymreig, sydd yn trawsnewid yr hen naratif Gymreig - o wlad wedi ei cham-drin a'i gadael i lawr - i un newydd llawn optimistiaeth a gobaith."