Rhun ap Iorwerth ac Adam Price i herio Leanne Wood
- Cyhoeddwyd
Mae Rhun ap Iorwerth ac Adam Price bellach wedi cyhoeddi y byddan nhw'n sefyll i fod yn arweinydd Plaid Cymru.
Bydd AC Ynys Môn ac AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn herio'r arweinydd presennol Leanne Wood am y swydd.
Roedd Mr ap Iorwerth wedi datgan fis diwethaf nad oedd ganddo ddiddordeb i herio Ms Wood - sydd wedi bod yn arweinydd ar y blaid er 2011.
Fe ddywedodd Mr Price y byddai'n herio Ms Wood os nad oedd hi'n cytuno i gael dau arweinydd.
Fe wrthododd Ms Wood awgrym Mr Price ddydd Mawrth, gan ddweud ei fod yn fater ar gyfer yr aelodaeth.
Gornest
Mae'r cyhoeddiad yn golygu y bydd her i'r arweinyddiaeth ym mhob plaid o fewn y Cynulliad heblaw un.
Mae cryn dipyn o sôn wedi bod am her posib i Ms Wood, yn enwedig gan fod y ffenestr sy'n caniatáu ceisiadau i herio am arweinyddiaeth y blaid yn cau am hanner nos ddydd Mercher.
Mae hi eisoes wedi croesawu her i'w harweinyddiaeth, ac wedi addo gadael os nad yw hi'n brif weinidog ar ôl etholiad y Cynulliad yn 2021.
Cafodd Mr ap Iorwerth ei annog i ymgeisio am yr arweinyddiaeth gan aelodau'r blaid yn Ynys Môn fis Mehefin.
Daeth yn Aelod Cynulliad mewn isetholiad yn 2013, gan gymryd lle cyn-arweinydd y blaid Ieuan Wyn Jones.
Ym mis Mehefin dywedodd Mr ap Iorwerth mewn cynhadledd i'r wasg nad oedd ganddo fo "nag unrhyw un arall" gynlluniau i roi eu henwau ymlaen yn y ffenestr yma.
Mae Mr Price hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan aelodau o'i blaid leol i sefyll am yr arweinyddiaeth.
'Pennod newydd'
Ddydd Mercher fe rannodd Mr ap Iorwerth ddatganiad i aelodau'r blaid.
"Ychydig wythnosau yn ôl, fe wnaeth Leanne wahodd trafodaeth am arweinyddiaeth Plaid Cymru, trafodaeth allai arwain at ail-gadarnhau ei harweinyddiaeth hi, neu agor pennod newydd yn hanes Plaid Cymru," meddai.
"Mae cryn drafod wedi bod ers hynny ynglŷn â gwerth cael trafodaeth o'r fath, ac mae cefnogwyr ac aelodau o'r Blaid o bob rhan o Gymru - o gymoedd y de i'r gogledd a'r canolbarth, o'r gorllewin i Gaerdydd - wedi fy annog i i ganiatáu i fy enw gael ei gynnig.
"Mae'r anogaeth wedi dod o bob haen etholedig, ond yn bennaf o blith aelodau cyffredin, yn cynnwys rhai yr wyf yn llawn ddisgwyl iddyn nhw gefnogi Leanne.
"A dyna'r pwynt - trafodaeth adeiladol ddylai hon fod, un bositif i egnïo'r Blaid a Chymru, ac yn yr ysbryd yna yr wyf yn derbyn yr enwebiad."
Yn ei ddatganiad yntau dywedodd Mr Price ei fod wedi "derbyn llawer o negeseuon" yn gofyn iddo sefyll.
"Mae'r lefel o anogaeth a'r gefnogaeth a gefais er nad oeddwn wedi datgan unrhyw fwriad i sefyll wedi bod yn anrhydedd," meddai.
Ychwanegodd ei fod wedi trafod ei gynnig am arweinyddiaeth ar y cyd gyda Leanne Wood er mwyn ceisio "osgoi yr angen i herio", ond bod y trafodaethau hynny wedi'u "tanseilio".
"Byddaf nawr yn derbyn yr enwebiadau a gefais i geisio arwain Plaid Cymru," meddai.
"Byddaf yn defnyddio'r ymgyrch hon i rannu a thrafod syniadau polisiau creadigol yn frwdfrydig ar gyfer Cymru ffyniannus, hyderus ac annibynnol gydag aelodau'r Blaid a fydd bellach yn cael y cyfle y maent wedi galw am i ddweud eu dweud ar adeiladu Plaid Cymru wedi ei hadnewyddu at y dyfodol."
'Dim bwriad' clymbleidio
Wrth siarad â BBC Cymru ddydd Mercher dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, Ben Lake fod yr her i'r arweinyddiaeth yn "newyddion i'w groesawu".
"Mae Leanne eisoes wedi dweud bod angen i ni gael y drafodaeth yma, ac yn croesawu'r gystadleuaeth," meddai.
"Dwi'n credu bydde fe'n beth da i'r blaid.
"Mae'n sicr dipyn o drafod wedi bod dros y pythefnos, dair wythnos diwethaf am yr arweinyddiaeth a'r cyfeiriad ni'n mynd iddo fel plaid - a oes angen ailystyried y strategaeth, y cynllun - a dwi'n credu bod hynny'n beth da."
Pan ofynwyd i Rhun ap Iorwerth ar raglen Taro'r Post ddydd Mercher am ei farn am ddod i gytundeb gyda'r Ceidwadwyr ar ôl etholiad 2021, atebodd:
"'Sgen i ddim math o fwriad cael cytundeb gyda'r Torïaid - cael Plaid Cymru i arwain llywodraeth ydy'r nod.
"'Sgen i ddim ffansi cael clymblaid efo'r Ceidwadwyr, ond 'sgen i ddim ffansi cael clymblaid efo Llafur chwaith.
"Allai ddim rhagweld unrhyw sefyllfa lle allwn i gefnogi prif weinidog Llafur."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2018