Cuddy yn 'risg ariannol' ers misoedd cyn mynd i'r wal

  • Cyhoeddwyd
Tractor CuddyFfynhonnell y llun, Cuddy
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cwmni dymchwel Cuddy Group wedi'i leoli yng Nghastell-nedd

Roedd asiantaeth statws credyd wedi rhybuddio fod y cwmni dymchwel Cuddy Group yn risg uchel o ran credyd dros flwyddyn cyn iddyn nhw fynd i'r wal, mae BBC Cymru yn deall.

Fe wnaeth y cwmni alw gweinyddwyr ym mis Gorffennaf wrth i'r Rheolwr Gyfarwyddwr, Mike Cuddy roi'r bai ar ei iechyd a'r ffaith fod neb wedi camu i mewn yn ei le am fethiant y cwmni.

Fe gafodd 130 o weithwyr Cuddy gynnig gwaith gyda chwmni arall ar ôl cael eu diswyddo yn sgil cwymp Cuddy.

Dywedodd cwmni CreditSafe o Gaerffili, sy'n darparu gweinyddwyr gyda gwybodaeth ariannol, fod sgôr statws credyd Cuddy yn "isel iawn" - 17 allan o 100 - wythnos cyn iddyn nhw droi'n fethdalwyr.

Mae'r cwmni wedi cael cais am sylw.

'Gostyngiad graddol'

Dydy Cuddy heb ddarparu eu cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau ers 2016, felly ond yn ddiweddar mae problemau ariannol y cwmni wedi dod i'r amlwg.

Mae sgôr credyd y cwmni wedi bod yn gostwng yn raddol dros y tair blynedd diwethaf.

Fe wnaeth cyfarwyddwyr o'r cwmni hefyd gymryd rhanddaliadau allan o'r cwmni yn 2013/14 a 2014/15, er bod y cwmni wedi gwneud colled yn ariannol.

Ond ni wnaethon nhw gymryd ceiniog yn 2015/16 pan wnaeth y cwmni elw.

Dywedodd Prif Weithredwr CreditSafe, Chris Robertson: "Mae ein data dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos fod gostyngiad graddol wedi bod o ran cyflwr ariannol Cuddy Group, ac fe wnaethon ni ei roi yn y categori risg uchel o ganlyniad.

"Y neges yma yw i gyflenwyr gadw llygaid barcud ar sut mae eu partneriaid busnes yn perfformio ac i ymateb i unrhyw newid yn y proffil risg cyn iddi fod yn rhy hwyr...

"Yn sgil cwymp Carillon a nawr Cuddy Group, does yna erioed wedi bod amser mor bwysig â hyn i gwmnïau edrych ar eu hymrwymiadau busnes a sicrhau eu bod nhw'n gwneud y cyfan yn eu gallu i ddiogelu eu busnesau ac i osgoi unrhyw beth allai gael effaith yn y dyfodol."