Cynnig swyddi i 130 o weithwyr Cuddy wedi ansicrwydd
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni dymchwel Cuddy Group wedi'i leoli yng Nghastell-nedd
Mae cwmni adeiladu tai, Persimmon Homes, wedi cynnig gwaith i 130 o weithwyr o'r cwmni dymchwel adeiladau, Cuddy Group.
Mae Persimmon yn dweud fod Cuddy, o Gastell-nedd, wedi "rhoi rhybudd swyddogol o'u bwriad i benodi gweinyddwyr, fyddai'n peryglu swyddi".
Mae staff ar safle Cuddy yn Llandarcy wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod wedi cael gorchymyn i fynd i'r swyddfa ddydd Llun, er gwaethaf y dyfalu am ddyfodol y cwmni.
Mae cyfarwyddwr y cwmni, Mike Cuddy wedi dweud ei fod wedi'i "ddinistrio" ac yn dweud mai salwch a neb yn camu fyny sydd wrth wraidd cwymp.
Yn ôl Cyngor Sir Gar, mae gwaith dymchwel gan Cuddy wedi stopio ar safle hen ffatri Pontirlas yn Llanelli.
'Trafodaethau'
Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, sy'n aelod o fwrdd adnoddau Cyngor Sir Gar: "Mae'r gwaith ym Mhontirlas wedi stopio, ac rydym mewn trafodaethau gyda swyddogion Cuddy.
"Os na fydd Cuddy mewn sefyllfa i orffen y gwaith ar y safle, fe fyddwn yn cysylltu gyda chontractwyr eraill i gwblhau beth sydd angen.
"Ni fydd unrhyw benderfyniad nes i ni gael yr holl wybodaeth ynglŷn â sefyllfa Cuddy."
Roedd y cwmni hefyd yn gyfrifol am ddymchwel ar safle Oceana yn Abertawe, ond mae'r gwaith hwnnw bellach wedi'i gwblhau.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran cwmni Cuddy Group: ""Mae'r newyddion wedi dinistrio Mike, mae'r newyddion a'r poen meddwl wedi cael effaith ar ei iechyd,
"Ond, mae'n bwriadu parhau, i wneud popeth yn ei allu i sicrhau fod y gweithlu yn llwyddianus wrth iddyn nhw chwilio am waith arall."