Galw am hawl i geiswyr lloches weithio wedi marwolaeth dyn
- Cyhoeddwyd
Dylai ceiswyr lloches gael yr hawl i weithio yn y DU os ydyn nhw'n gorfod disgwyl mwy na chwe mis am benderfyniad, yn ôl grŵp sy'n helpu ffoaduriaid yng Nghymru.
Daw'r alwad yn dilyn marwolaeth ceisiwr lloches o Sudan, a ddisgynnodd oddi ar do ffatri yng Nghasnewydd yn dilyn cyrch gan yr asiantaeth mewnfudo.
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol bellach yn cael ei annog o ddilyn esiampl Gweriniaeth Iwerddon a rhoi'r hawl i geiswyr lloches weithio.
Dywedodd y Swyddfa Gartref nad oedd ceiswyr lloches yn cael gweithio er mwyn "blaenoriaethu cyflogaeth i ddinasyddion Prydeinig a'r rhai sydd yma'n gyfreithlon, yn cynnwys y rhai sydd wedi cael lloches".
'Methu cysgu na bwyta'
Mae ceiswyr lloches yng Nghasnewydd wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn teimlo'n isel i bwynt o ystyried lladd eu hunain wrth ddisgwyl am benderfyniad - rhai am flynyddoedd.
Dywedodd un, oedd am aros yn ddienw: "Allwch chi ddim cysgu, ddim bwyta, mae'n anodd.
"Weithiau dwi'n meddwl am bethau gwallgof, dwi'n gofyn pam ydw i'n aros yn y byd yma. Dwi'n meddwl beth yw pwynt bywyd."
Ychwanegodd rhai y byddai cael yr hawl i weithio yn gymorth iddyn nhw.
Yn ôl ffigyrau'r Partneriaeth Strategaeth Mewnfudo, roedd 2,910 o geiswyr lloches yng Nghymru oedd yn derbyn rhyw fath o lwfans byw yn chwarter cyntaf 2018.
Ffigyrau ceiswyr lloches oedd yn derbyn rhyw fath o lwfans byw yn ôl yr ardaloedd:
Caerdydd - 1,317
Abertawe - 898
Casnewydd - 527
Wrecsam - 158
Castell-nedd Port Talbot - 2
Pen-y-bont ar Ogwr - 4
Bro Morgannwg - 4
Mae rheolwyr ym mhrosiect The Sanctuary yng Nghasnewydd, sy'n cefnogi ceiswyr lloches, yn credu y gallai Mustafa Dawood dal fod yn fyw petai wedi cael yr hawl i weithio yn gyfreithlon.
Roedd Mr Dawood yn gweithio yn anghyfreithlon yn glanhau ceir yn y ddinas, ac fe ddringodd ar ben to ffatri wrth geisio dianc rhag swyddogion mewnfudo.
Clywodd cwest i'w farwolaeth fod ei gorff wedi'i ganfod gan swyddogion mewnfudo o dan ddarn o do oedd wedi "torri", ac roedd wedi dioddef anafiadau "marwol" i'w ben.
'Penderfyniadau gwael'
Mae Sarah Croft, swyddog yn y ganolfan, bellach yn galw ar yr Ysgrifennydd Gwladol i newid y rheolau.
Dywedodd Ms Croft: "Doedd Mustafa ddim i fod i weithio, rydym yn gwybod hynny. Ond mae'r drefn bresennol yn gyrru pobl i wneud penderfyniadau gwael.
"Petai Mustafa wedi cael caniatâd i weithio yn gyfreithlon, yna ni fyddai wedi bod ofn y swyddogion pan gyrhaeddon nhw."
Mae canllawiau'r Swyddfa Gwladol yn nodi fod penderfyniadau ynglŷn ag achosion ceiswyr lloches syml yn "cymryd chwe mis fel arfer".
Ond mae swyddogion yn y ganolfan yn dweud fod "nifer fechan" o bobl yn derbyn penderfyniad yn yr amser yma, gyda rhai yn disgwyl blynyddoedd.
Mewn datganiad, dywedodd y Swyddfa Gartref nad oedd ceiswyr lloches yn cael gweithio er mwyn "blaenoriaethu cyflogaeth i ddinasyddion Prydeinig a'r rhai sydd yma'n gyfreithlon, yn cynnwys y rhai sydd wedi cael lloches".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2018
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2018