Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-0 Fylde
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth gêm gartref cystadleuol cyntaf Sam Ricketts fel rheolwr Wrecsam ar y Cae Ras orffen yn ddi-sgôr yn erbyn Fylde.
Mewn gêm gyffrous, bu bron i Paul Rutherford roi Wrecsam ar y blaen wedi 60 munud.
Roedd cefnogwyr Wrecsam yn credu ei fod wedi sgorio gyda pheniad, cyn i luman y dyfarnwr cynorthwyol ddynodi ei fod yn camsefyll.
Gorffennodd y gêm gyda'r ddau dîm wedi gwastraffu cyfleoedd.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn y nawfed yn nhabl Cynghrair Cenedlaethol Lloegr wedi dwy gêm o'r tymor.