Marwolaeth Tredegar Newydd: Parhau i holi tri dyn

  • Cyhoeddwyd
Tref Elliot
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff David Gaut, 54 oed, ei ddarganfod yn ardal Tref Elliot ar 4 Awst

Mae'r heddlu yn parhau i holi tri dyn gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod yn Sir Caerffili.

Mae swyddogion fforensig hefyd yn chwilio'r tŷ lle cafodd David Gaut, 54 oed, ei ddarganfod yn ardal Tref Elliot o Dredegar Newydd brynhawn Sadwrn.

Mae'r dynion gafodd eu harestio - dau o Dredegar Newydd sy'n 23 oed a 51 oed, a dyn 47 oed o Aberbargod - yn parhau yn y ddalfa.

Mae Heddlu Gwent wedi gwrthod gwneud sylw ynglŷn â chysylltiad posib David Gaut gyda llofruddiaeth babi 17 mis oed yng Nghaerffili yn 1985.

Mae erthyglau papur newydd o'r cyfnod yn adrodd hanes dyn o'r enw David Tracy Gaut, oedd yn 20 oed ar y pryd, yn cael ei garcharu am oes am lofruddio Chi Ming Shek, mab ei gariad ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Chi Ming Shek, oedd yn cael ei adnabod fel Marky, yn 17 mis oed pan gafodd ei lofruddio

Clywodd yr achos yn Llys y Goron Caerdydd yn 1985 fod mam y bachgen wedi gadael ei phlant ifanc yng ngofal Gaut i fynd am noson allan.

Y diwrnod wedyn, daeth o hyd i gorff ei mab - a oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Marky - o dan gwpwrdd yn ei ystafell wely, wedi ei gleisio'n ddrwg drosto,

Clywodd yr achos bod Gaut wedi ceisio gwneud i'r farwolaeth edrych fel damwain.

Ond dywedodd y patholegydd Dr Owen Williams ei bod yn bosib fod y babi wedi cael ei anafiadau o fod wedi cael ei fwrw, ei gicio, ei daflu neu o fod wedi syrthio - neu gyfuniad o bob dim.

'Y drosedd waethaf'

Dywedodd yr erlynydd Aubrey Myerson QC fod cymdogion wedi clywed synau uchel, gan gynnwys sŵn clecio a chrashio pan oedd y fam allan.

Bu farw'r bachgen o anafiadau amrywiol gan gynnwys anafiadau i'w organau, ac roedd hefyd wedi torri ei fraich a'i benglog.

Yn ystod y dedfrydu yn 1985, disgrifiodd Mr Justice Caldfield arteithio a llofruddiaeth y baban fel y "drosedd waethaf yn y wlad", gan ychwanegu: "Roedd y person cafodd ei lofruddio'n fabi diamddiffyn ac mae'r rheithgor wedi darganfod dy fod wedi ei arteithio hefyd."