Sylwadau Boris Johnson yn 'anfaddeuol' yn ôl Guto Bebb
- Cyhoeddwyd
Mae sylwadau diweddar Boris Johnson am fenywod Fwslimaidd yn "anfaddeuol" yn ôl yr Aelod Seneddol Guto Bebb.
Dywedodd yr AS ar gyfer Aberconwy fod y cyn Ysgrifennydd Tramor wedi "gwerthu pob un egwyddor a oedd ganddo" yn dilyn erthygl gan Mr Johnson ar fenywod yn gwisgo burka.
Mae Mr Johnson yn wynebu beirniadaeth chwyrn am ddweud fod menywod Mwslimaidd sy'n gwisgo burka yn edrych fel "blwch post".
Mewn erthygl yn y Daily Telegraph dywedodd na ddylai feliau sy'n gorchuddio'r wyneb gael eu gwahardd, ond ei fod yn "hollol hurt" fod menywod yn dewis "edrych fel blychau post".
Fe wnaeth o hefyd gymharu eu hedrychiad i ladron banc.
Roedd Mr Bebb yn ymateb i'r sylwadau mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan raglen 'Byd Yn Ei Le' S4C.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2018