Mynd ymlaen i'r brifysgol yn ddibynnol ar eich ysgol?

  • Cyhoeddwyd
seremoni raddioFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r tebygolrwydd o fynd i brifysgol yn amrywio yn ddibynnol ar ba ysgol y mae pobl ifanc yn ei fynychu, yn ôl gwaith ymchwil.

Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn awgrymu fod y nifer o ddisgyblion Cymru gyda'r un graddau aeth ymlaen i addysg uwch yn amrywio'n sylweddol yn ddibynnol ar eu hysgol.

Bydd miloedd o bobl ifanc ar hyd Cymru yn derbyn eu canlyniadau Safon Uwch ddydd Iau nesaf, gyda nifer yn bwriadu mynd i brifysgol.

Dywedodd yr Athro Chris Taylor bod angen mwy o bwyslais ar sicrhau fod gan ddisgyblion gyfle i "wneud yr hyn maen nhw eisiau".

Roedd yr astudiaeth yn dilyn tri chasgliad o ddisgyblion Cymraeg 15-16 oed rhwng 2005 a 2007.

Allan o 195 ysgol uwchradd, roedd tua 46 lle roedd y tebygolrwydd o bobl ifanc yn mynd ymlaen i addysg uwch 35% yn uwch na'r cyfartaledd, gyda 35 ysgol arall 35% yn llai.

Dangosai'r ymchwil hefyd fod rhai ysgolion cymaint â 250% uwchben y cyfartaledd.

Chris Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Yr athro Chris Taylor

'Diwylliant o ddisgwyliadau'

Dywedodd Mr Taylor: "Roedden ni'n disgwyl canfod effaith bach, ond cawson ein syfrdanu i weld fod disgyblion mewn rhai ysgolion mwy na tair gwaith yn fwy tebygol o fynd i'r brifysgol na rhywun gyda'r un graddau mewn ysgol arall".

"Roedd y gwahaniaethau yn enfawr, doedden ni wir ddim yn disgwyl hynny."

Ychwanegodd fod "diwylliant o ddisgwyliadau" mewn ysgol yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr, yn ogystal â'r adnoddau, uchelgais a'r cymorth ymarferol sydd ar gael i'r rheini sy'n gwneud cais am le yn y brifysgol.

Canlyniadau TGAU a Lefel-A oedd y prif ffactor ym mhenderfyniad pobl ifanc i fynd ymlaen i addysg uwch, ond roedd y data yn awgrymu fod yr ysgol hefyd yn cael effaith mawr.

Yn ôl Mr Taylor dylai canlyniadau'r astudiaeth ddangos fod angen i ysgolion, cholegau a phrifysgolion wneud addysg uwch yn "haws i'w gyrraedd".

Dywedodd fod angen sicrhau fod gan bawb yng Nghymru'r cyfle i wneud penderfyniad gwybodus am fynd i'r brifysgol neu beidio.