Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 'ddatblygiad nid arbrawf'

  • Cyhoeddwyd
Ashok Ahir
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o bobl wedi canmol yr Eisteddfod wrth Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith eleni, Ashok Ahir

Wrth i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 ddirwyn i ben mae'r Brifwyl eleni wedi bod yn "llwyddiant ysgubol" yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.

Roedd sawl person yn amheus o syniad yr Eisteddfod o leoli'r maes eleni ym Mae Caerdydd - maes di-ffens gyda rhwydd hynt i bobl fynd a dod.

Ond, yn ôl Ashok Ahir, mae wedi cwrdd â sawl person ar y maes yn ystod yr wythnos sydd wedi dweud nad oedden nhw'n bwriadu dod lawr, ond ar ôl dod eu bod wedi cael "amser gwych".

"I mi, dim ceisio profi pobl yn anghywir oedden ni - roedden ni eisiau i bobl weld pob eisteddfod fel rhywbeth maen nhw yn ei wneud bob blwyddyn yn para."

'Trawsnewid yr Eisteddfod'

Ychwanegodd Mr Ahir: "Roedden ni hefyd eisiau pobl newydd ddod i chwilio ac i ffeindio mas mwy am yr Eisteddfod - yn enwedig ymwelwyr â'r brifddinas."

"Roedd cynulleidfa arall wastad yn fy meddwl, rhai sydd wedi bod i'r eisteddfod ond hefyd pobl nad oedd ddim yn meddwl fod eisteddfod ar gyfer nhw - ond mae llwyth ohonyn nhw wedi dweud wrtha i eu bod wedi mwynhau'r eisteddfod yma."

Ddydd Gwener, yn ystod y seremoni cadeirio ar lwyfan y pafiliwn, roedd y gynulleidfa ar eu traed yn gwerthfawrogi gwaith Elfed Roberts fel Prif Weithredwr cyn iddo ymddeol eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Elfed Roberts (chwith) gymeradwyaeth am ei waith fel Prif Weithredwr cyn iddo ymddeol. Bydd Betsan Moses yn ei olynu.

Roedd Mr Ahir hefyd yn canmol gwaith Mr Roberts a dywedodd: "Mae'r gwaith mae Elfed a swyddogion yr eisteddfod wedi'i wneud dros y pum mlynedd diwethaf wedi trawsnewid yr eisteddfod.

"Doedd hwn ddim yn arbrawf eleni yng Nghaerdydd, roedd yn ddatblygiad.

"Mae'r eisteddfod draddodiadol yng nghanol yr eisteddfod yma. Mae wedi bod llwyddiant ysgubol," meddai.

'Sialens'

Pan ofynnwyd i Betsan Moses, olynydd Elfed Roberts fel Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, am eisteddfodau tebyg yn y dyfodol fe ddywedodd:

"Rwyf wedi cael miloedd o bobl yn gofyn i mi pam na allwn ni wneud hyn ar ein strydoedd a'n trefi ni, mi faswn yn croesawu'r sialens yma.

"Ond y gwirionedd yw os nad yw'r isadeiledd yno mae rhaid adeiladu, ac mae 'na gost yn ymwneud â hynny," meddai.

Bydd sylw Ms Moses a gweddill trefnwyr yr eisteddfod nawr yn troi at Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, fydd yn cael ei chynnal yn Llanrwst y flwyddyn nesaf.