Llanrwst fydd lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019

  • Cyhoeddwyd
Eisteddfod Llanrwst 1989
Disgrifiad o’r llun,

Y tro diwethaf i'r Eisteddfod Genedlaethol fod yn Llanrwst oedd yn 1989

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Llanrwst fydd lleoliad yr ŵyl ymhen dwy flynedd yn 2019.

Daeth y cyhoeddiad wrth i Gyngor yr Eisteddfod gwrdd yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.

Erbyn 2019 bydd 30 mlynedd wedi pasio ers i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yn Llanrwst nol yn 1989 pan enillodd Selwyn Iolen y Goron ac Idris Reynolds y Gadair.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts fod "pawb yn edrych ymlaen i ddychwelyd i ardal a fu'n gartref arbennig i'r ŵyl nol yn 1989."

Arian yn weddill o Fôn

Mae cadarnhad eisoes wedi bod mai Trystan Lewis, sydd yn wreiddiol o Ddeganwy ac yn adnabyddus fel cerddor a dyn busnes, sydd wedi cael ei benodi yn gadeirydd y pwyllgor

Catherine Jones, sy'n athrawes yn Ysgol Glan Clwyd, yw Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Y swyddogion yw (o'r chwith i'r dde) Dylan Rhys Jones, Sian Eirian, Catherine Jones a Trystan Lewis

Fe wnaeth y Cynghorydd Gareth Jones, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, groesawu'r newyddion gan ddweud: "Rydym wrth ein bodd y bydd Eisteddfod 2019 yn cael ei chynnal ym Mwrdeistref Sirol Conwy.

"Hoffem longyfarch Llanrwst am gael ei dewis i gynnal y digwyddiad cenedlaethol hwn.

"Byddwn yn cefnogi Pwyllgor yr Eisteddfod gyda'u trefniadau dros y deunaw mis nesaf wrth iddynt baratoi eu digwyddiad."

Yn ogystal â chyhoeddi lleoliad 2019, clywodd Cyngor yr Eisteddfod fod yr ŵyl yn Ynys Môn eleni wedi gadael gweddill o £93,200.

Eisteddfod 'wahanol' Caerdydd

Ychwanegodd Elfed Roberts, "Mae heddiw'n gyfle i edrych yn ôl ar yr wythnos ym Modedern ddechrau Awst eleni.

"Er y tywydd gwael ar y penwythnos cyntaf, roedd hi'n Eisteddfod gofiadwy, ac mae ein diolch ni'n fawr i drigolion Môn, ein gwirfoddolwyr arbennig a'n hymwelwyr am hynny.

"Roedd tîm Ynys Môn yn benderfynol o gyrraedd nod y Gronfa Leol, a dyna a wnaethpwyd, a'i basio o bron i £90,000 erbyn diwedd wythnos yr Eisteddfod.

"Llwyddwyd i wneud hyn dan arweiniad gofalus a threfnus Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Haydn Edwards, ynghyd â phwyllgorau lleol hynod weithgar a llawn syniadau, ac rydym yn hynod ddiolchgar iddyn nhw oll am eu gwaith."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts yn edrych ymlaen at ŵyl wahanol yng Nghaerdydd

Wrth edrych ymlaen at yr Eisteddfod yng Nghaerdydd yn 2018 dywedodd Mr Roberts yn y cyfarfod bod "edrych ymlaen" at ŵyl fydd yn "wahanol"

"Rydym yn edrych ymlaen at gael defnyddio cyfuniad o adeiladau eiconig y Bae, gan gynnwys Canolfan y Mileniwm a'r Senedd, ynghyd â'r strwythurau deniadol dros-dro, sy'n gysylltiedig gyda'r Eisteddfod erbyn hyn.

"Fe fydd yn wahanol yn ddi-os, ond fe fydd yn sicr yn dal i deimlo fel Eisteddfod."

Ceir rhagor o wybodaeth a chopi o adroddiad gwerthuso Eisteddfod Ynys Môn, ynghyd â holl ganlyniadau'r wythnos ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru., dolen allanol