Caerdydd yn arwyddo dau ond tri yn gadael yr Elyrch
- Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd wedi arwyddo dau chwaraewr canol cae ar fenthyg ar ddiwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo.
Mae Victor Camarasa, 24, yn ymuno o Real Betis, a Harry Arter, 28, o Bournemouth.
Bydd y ddau gyda'r Adar Gleision am dymor, wrth i Gaerdydd ddychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr.
Yn y cyfamser, mae Abertawe wedi arwyddo amddiffynnwr Cymru a Rangers, Declan John, ar gytundeb tair blynedd.
Mae'r chwaraewr 23 oed wedi chwarae 31 o weithiau i Rangers ers ymuno gyda nhw o Gaerdydd.
Hefyd ar ddiwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo mae'r chwaraewr canol cae, Sam Clucas, yr ymosodwr Jordan Ayew a'r amddiffynnwr Federico Fernandez wedi gadael yr Elyrch.
I glwb arall yn y Bencampwriaeth, Stoke, mae Clucas wedi arwyddo, ar gytundeb pedair blynedd o hyd.
Mae Ayew, wnaeth wrthod hyfforddi gydag Abertawe ar ôl iddyn nhw ddisgyn o'r Uwch Gynghrair, wedi ymuno â Crystal Palace ar fenthyg.
Mae Fernandez wedi ymuno â Newcastle am ffi o tua £6m, lle bydd yn cydweithio eto gyda'i gyn-reolwr yn Napoli, Rafael Benitez.