'Penodi Bennett am ei fod yn cael ei weld yn niwtral'

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bennett wedi dweud y byddai'n ymgyrchu i gael gwared â'r cynulliad

Cafodd arweinydd newydd UKIP yn y Cynulliad ei ethol am ei fod yn cael ei weld yn "ddi-duedd" o fewn y blaid, medd David Rowlands, AC UKIP De Ddwyrain Cymru.

Ddydd Gwener cafodd Mr Bennett ei ethol wedi iddo drechu Caroline Jones a Neil Hamilton yn yr ornest.

Fore Sadwrn dywedodd David Rowlands wrth y BBC fod y bleidlais i Gareth Bennett yn "bleidlais yn erbyn ffraeon cyd-ddinistriol oddi fewn i'r blaid".

Mae Mr Bennett wedi bod yn ffigwr dadleuol ers cael ei ethol i'r Cynulliad ddwy flynedd yn ôl.

Ef yw pedwerydd arweinydd UKIP yng Nghymru ers i Nathan Gill, a gafodd ei benodi gan Nigel Farage, arwain ymgyrch etholiadau y Cynulliad yn 2016.

Llwyddodd UKIP i ennill saith sedd yn y Senedd.

Neil Hamilton, Caroline Jones and Gareth BennettFfynhonnell y llun, Getty/Ashwood Photography
Disgrifiad o’r llun,

Fe drechodd Gareth Bennett (Dde) Neil Hamilton (Chwith) a Caroline Jones yn yr ornest

Llwyddodd Mr Bennett i ddisodli Caroline Jones fel arweinydd grŵp UKIP yn y Senedd a hynny wedi dim ond chwech wythnos yn y swydd.

Ym mis Mai fe ddaeth Caroline Jones yn arweinydd yn lle Neil Hamilton.

Yn dilyn y bleidlais dywedodd arweinydd UKIP yn y DU, Gerard Batten, ei fod yn "disgwyl i bob ymgeisydd nawr gyd-dynnu a gweithio er budd UKIP".

Ychwanegodd David Rowlands: "Mae'n amser nawr i bawb sicrhau bod y ffraeo yn dod i ben."

Dywedodd hefyd fod penodiad Mr Bennett yn syndod.

'Cael gwared â'r Cynulliad'

Mae'r cyn-arweinydd Caroline Jones wedi mynegi ei "siom" gyda'r penderfyniad i gynnal etholiad a dywedodd bod ganddi "lot i feddwl amdano".

Ychwanegodd: "Gallech ddweud ei fod yn ddemocrataidd i gael etholiad ond fe ddylai hynny fod wedi digwydd ar y dechrau."

Yn ôl cyn-AC UKIP Mark Reckless, a ymunodd â'r Ceidwadwyr yn 2017, "barn gref" Mr Bennett yn erbyn y Cynulliad a sicrhaodd iddo fuddugoliaeth.

Mae Mr Bennett wedi dweud y dylid cael gwared â'r Cynulliad ond mae Mr Rowlands a Ms Jones wedi gwadu na ddylai rhoi diwedd ar ddatganoli fod yn bolisi'r blaid.

Mae pleidiau eraill wedi beirniadu penodiad Mr Bennett.

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Llafur Vaughan Gething fod Mr Bennett yn "ddyn sarhaus" ac ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, y byddai marwolaeth UKIP yn rhywbeth a fyddai'n cael ei groesawu.

Yn y gorffennol mae Mr Bennett wedi cael ei feirniadu am gysylltu problemau sbwriel yng Nghaerdydd gyda mewnfudwyr o ddwyrain Ewrop.

Ym mis Rhagfyr y llynedd cafodd Mr Bennett ei wahardd o'r Senedd am wythnos ar ôl gwneud sylwadau am y gymuned trawsryweddol.

Ac ym mis Mai eleni fe wrthododd ag ymddiheuro am glip fideo "di-chwaeth" yn ymosod ar aelod o'r Blaid Lafur - er i rai o'i gyd-aelodau wneud hynny.