Dewis Gareth Bennett yn arweinydd UKIP yn y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gareth Bennett ei ethol i'r Cynulliad yn 2016

Mae Gareth Bennett wedi cael ei ethol yn arweinydd newydd ar UKIP yn y Cynulliad.

Mewn datblygiad annisgwyl, llwyddodd AC Canol De Cymru i drechu Caroline Jones a Neil Hamilton yn yr ornest.

Ms Jones oedd arweinydd grŵp UKIP yn y Senedd, a hynny wedi iddi ddisodli Mr Hamilton ym mis Mai.

Cafodd Mr Bennett 58% o'r bleidlais yn y rownd derfynol, o'i gymharu â 42% ar gyfer Mr Hamilton.

Dywedodd swyddog o'r blaid fod 514 o'r 876 aelod sydd gan UKIP yng Nghymru wedi pleidleisio - gyda Ms Jones yn cael ei threchu yn y rownd gyntaf.

Ffigwr dadleuol

Mae Gareth Bennett wedi bod yn ffigwr dadleuol ers cael ei ethol i'r Cynulliad ddwy flynedd yn ôl.

Yn 2016 cafodd ei feirniadu am gysylltu problemau sbwriel yng Nghaerdydd gyda mewnfudwyr o ddwyrain Ewrop.

Ym mis Rhagfyr y llynedd cafodd Mr Bennett ei wahardd o'r Senedd am wythnos ar ôl gwneud sylwadau am y gymuned trawsryweddol.

Ac ym mis Mai eleni fe wrthododd ag ymddiheuro am glip fideo "di-chwaeth" yn ymosod ar aelod o'r Blaid Lafur - er i rai o'i gyd-aelodau wneud hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Neil Hamilton a Caroline Jones hefyd wedi ymgeisio am yr arweinyddiaeth

Pan lansiodd ei ymgyrch ar gyfer yr arweinyddiaeth dywedodd y byddai'n ymgyrchu i "gwtogi ar y gwariant cynyddol o ddarpariaeth iaith Gymraeg".

"Mae angen i ni adolygu a yw taflu miliynau o bunnoedd o arian y trethdalwyr tuag darged ar hap o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn mynd i gyflawni unrhyw beth," meddai.

Dywedodd hefyd fod angen refferendwm arall ar ddyfodol y Cynulliad, gan gwestiynu pwrpas y sefydliad.

'Rhywbeth ond Brexit'

Wrth siarad yn dilyn ei fuddugoliaeth yn yr etholiad, dywedodd Mr Bennett ei fod "wrth ei fodd".

"Roeddwn i wedi dweud bod angen ymladd yr etholiad yma ar bolisïau, achos mae'n rhaid i UKIP sefyll dros rywbeth radical a rhywbeth oni bai am Brexit," meddai.

"Dwi'n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau eraill grŵp UKIP yn y Cynulliad i herio'r sefydliad ym Mae Caerdydd a chynnig dewis amgen go iawn i Gymru yn etholiad nesaf y Cynulliad yn 2021."

Ychwanegodd Neil Hamilton ar Twitter ei fod yn "croesawu" buddugoliaeth Gareth Bennett, gan ei ddisgrifio fel "ffrind da ac un y gallai weithio'n hapus ag e".

"I lawer o aelodau UKIP roedd yr etholiad yn refferendwm ar fodolaeth y Cynulliad. Yn amlwg mae'n rhaid i ni ddysgu o hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd arweinydd UKIP y DU, Gerard Batten nad oedd wedi ffafrio'r un o'r ymgeiswyr yn y ras

Ond dywedodd Caroline Jones fod cael ei herio am yr arweinyddiaeth lai na deufis ers cael ei dewis "ddim wedi gadael blas da yn y geg".

"Byddai wedi bod yn gwrtais aros dwy flynedd fel wnaethon ni cyn herio arweinyddiaeth [Neil Hamilton]," meddai.

"Doedd hynny ddim yn dderbyniol i Neil, o beth dwi'n ddeall, ac yna fe aeth e i ofyn am gynnal etholiad arall."

Ychwanegodd nad oedd ganddi "ddrwgdeimlad" tuag at Mr Bennett, ond ei bod bellach yn "pryderu am ei dyfodol" o fewn y blaid.

Mae UKIP bellach wedi cadarnhau mai dim ond etholiad i ddewis arweinydd y grŵp yn y Cynulliad oedd hwn, nid ar gyfer arweinydd y blaid yng Nghymru.

'Dyn hynod sarhaus'

Wrth ymateb i'r newyddion ar Twitter dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Mae temptasiwn i chwerthin ond dyw hyn wir ddim yn ddoniol.

"Mae'n ddyn hynod sarhaus ond ddim yn ddoniol o gwbl. Ond yn amlwg fe yw dewis clir aelodau UKIP Cymru. Mae hynny'n dweud popeth sy'n rhaid i chi wybod."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Rydw i wedi bod yn gyson fy meirniadaeth o UKIP fel plaid sydd methu ac fydd ddim yn cynrychioli gwerthoedd Cymru.

"Maen nhw nawr wedi dangos eu hunain fel beth dwi wastad wedi credu maen nhw - criw o eithafwyr rhagfarnllyd. Rydym yn croesawu eu cwymp."

Ond mynnodd Mr Bennett ei fod yn "fraint" cael ei feirniadu gan bobl fel Mr Gething a Ms Wood, ac nad oedd angen iddo fod yn llai dadleuol nawr ei fod yn arweinydd.

Ychwanegodd wrth raglen Good Evening Wales ei fod yn "hyderus" o allu uno ACau'r blaid er nad oedd pawb wastad yn "canu o'r un dudalen".