Arestio 170 am yrru dan ddylanwad adeg Cwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod wedi arestio dros 170 o bobl am yfed a gyrru a gyrru dan ddylanwad cyffuriau dros yr haf.

Dan arweiniad Heddlu De Cymru, fe lansiodd y pedwar llu heddlu yng Nghymru'r 'Ymgyrch Atal Yfed a Gyrru a Gyrru ar Gyffuriau Cenedlaethol' er mwyn cyd fynd â chystadleuaeth Cwpan y Byd.

Rhwng 14 Mehefin a 14 Gorffennaf fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru arestio 109 am yfed a gyrru a 65 am yrru dan ddylanwad cyffuriau.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Heddlu Gwent eu bod wedi arestio 42 o bobl am droseddau tebyg dros yr un cyfnod.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Dros Dro Paul Joyce o'r Uned Plismona Ffyrdd: "Fe wnaethom ni gyhoeddi ar gychwyn yr ymgyrch y bydden ni'n canolbwyntio ar dargedu'r rhai sy'n gyrru o dan ddylanwad.

"Er y rhybudd, mewn dros bedair wythnos, mae 174 o fodurwyr wedi cael eu harestio yn y gogledd yn dilyn prawf alcohol a chyffuriau ar ochr y ffordd.

"Mae'r gosb am yrru ar gyffuriau'r un fath ag yfed a gyrru. Os ydyn nhw'n yn euog, gall pob un gael eu gwahardd rhag gyrru am o leiaf 12 mis, wynebu dirwy fawr a gall nifer wynebu colli eu swyddi.

"Ni allaf bwysleisio gymaint yw'r peryglon mae'r bobl yma yn eu hwynebu, nid yn unig i'w hunain ond i ddefnyddwyr ffyrdd eraill.

"Mae'r ymgyrch wedi dod i ben ond mae'r gwaith o dargedu gyrwyr sy'n gyrru o dan ddylanwad yn parhau drwy'r flwyddyn."