Plismyn Heddlu'r Gogledd eisiau cario gynnau Taser

  • Cyhoeddwyd
TaserFfynhonnell y llun, PA

Mae arolwg o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yn awgrymu bod 79% ohonyn nhw yn awyddus i gael yr hawl i gario gwn taser tra ar ddyletswydd.

Dyna ganlyniad arolwg a gafodd ei gynnal gan Ffederasiwn Heddluoedd Cymru a Lloegr.

Roedd yr astudiaeth yn ystyried barn y swyddogion am arfau yn gyffredinol, gan ofyn hefyd pa mor fodlon oedden nhw gyda chefnogaeth arfog y llu a hefyd eu barn am gael eu harfogi.

Dangosodd yr arolwg o swyddogion Heddlu'r Gogledd bod:

  • 79% o'r rhai ymatebodd eisiau mynediad i wn taser ar bob achlysur tra ar ddyletswydd (os yw eu rôl yn un addas i hynny);

  • 53% o'r ymatebwyr yn dweud bod eu bywydau wedi bod mewn perygl difrifol o leiaf unwaith dros y ddwy flynedd diwethaf;

  • 80% ddim yn credu y byddai cefnogaeth arfog ar gael iddyn nhw pe byddai ei angen;

  • 35% o'r ymatebwyr o blaid arfogi heddlu fel mater o arfer.

Daw'r canlyniadau i'r arolwg yn dilyn sylwadau gan yr Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid a fynegodd gefnogaeth i ynnau Taser gan eu disgrifio fel "dewis tactegol pwysig i swyddogion sy'n delio gyda'r troseddwyr mwyaf difrifol a threisgar" wrth siarad yng nghynhadledd flynyddol y ffederasiwn.

'Dull effeithiol'

Dywedodd Rich Eccles, ysgrifennydd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru: "Nid yw'n gyd-ddigwyddiad bod mwyafrif y swyddogion a holwyd am gael mynediad i wn Taser drwy'r amser tra bod cyfran fawr o'r un swyddogion wedi gweld eu bywydau'n cael eu peryglu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Mae Taser yn ddull effeithiol iawn o ddelio â nifer y sefyllfaoedd peryglus y mae swyddogion yn eu hwynebu'n aml, ac mae'n ddewis llai angheuol nag arfau cyffredin.

"Mewn 80% o achosion lle mae gwn Taser yn cael ei ddangos, nid yw'n cael ei danio gan ei fod yn arf ataliol, ac mae hynny'n helpu o ddiogelu cymunedau yn ogystal â gwarchod swyddogion rhag ymosodiadau."

Mae Ffederasiwn Heddluoedd Cymru a Lloegr yn parhau i alw am wella mynediad at offer o'r fath i'w swyddogion, ac mae ymgyrch 'Protect the Protectors' yn ceisio gofalu am les corfforol a meddyliol eu swyddogion, sicrhau fod ganddyn nhw'n offer diogelu priodol a galw am ddedfrydau llymach i droseddwyr sy'n ymosod ar blismyn ac aelodau o'r gwasanaethau brys eraill.