Gwrthod cynnig Uundeb Rygbi Cymru i brynu Parc yr Arfau
- Cyhoeddwyd
Mae cynnig gan Undeb Rygbi Cymru i brynu Parc yr Arfau am £15-20m wedi cael ei wrthod gan berchnogion y maes.
Yn dilyn cyfarfod pwyllgor nos Lun penderfynodd Clwb Athletau Caerdydd (CAC) na fyddan nhw'n rhoi'r cynnig gerbron eu haelodau.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Keith Morgan fod "llawer o ansicrwydd ynghylch gwerthu'r rhyddfraint ar y safle eiconig".
Mae URC wedi cael cais am sylw ond maen nhw wedi dweud yn y gorffennol eu bod nhw eisiau cydweithio gyda'r pedwar rhanbarth.
Cartref y Gleision
Mae CAC wedi dweud y byddan nhw'n fodlon parhau i drafod gydag URC ynglŷn â phrydles hir dymor, ond bod gwerthu'r rhyddfraint yn faen tramgwydd.
"Rydyn ni'n barod i drafod gydag unrhyw un... gyda'r cynnig iawn fe awn ni ag e i'r aelodau ac fe fyddan nhw'n penderfynu derbyn ai peidio," meddai Mr Morgan.
Ychwanegodd fod gan y pwyllgor "berthynas dda" gyda'r Gleision, sy'n chwarae yno ar hyn o bryd, a bod "dim dymuniad" ganddyn nhw eu gweld yn gadael Parc yr Arfau.
Yn gynharach eleni, cafodd cynnig gan y Gleision o £8m am brydles 150 mlynedd ei wrthod, ac mae'r rhanbarth wedi dweud y gallen nhw adael pan mae eu cytundeb presennol yn dod i ben 2022.
Nid dyna fyddai'r tro cyntaf i'r Gleision adael Parc yr Arfau - fe dreulion nhw bum tymor yn chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn dychwelyd i ganol y ddinas yn 2012.
Mae Clwb Athletau Caerdydd yn cynnwys pum pwyllgor sy'n cynrychioli rygbi, tenis, bowlio, criced a hoci, gyda'r bwriad o hybu chwaraeon amatur yn y brifddinas.
Y gamp gyntaf i gael ei chwarae yno oedd criced nôl yn 1848, ond mae bellach yn fwy adnabyddus fel maes rygbi.
Dyna oedd lleoliad Stadiwm Genedlaethol Cymru cyn i'r safle gael ei ailddatblygu i wneud lle ar gyfer Stadiwm y Mileniwm yn 1999.
Cydweithio
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cael cais am sylw.
Mewn datganiad blaenorol dywedodd y corff eu bod eisiau gweithio'n "fwy clyfar" gyda'r pedwar rhanbarth rygbi proffesiynol.
"Os yw'n pump endid ni - URC a'r pedwar rhanbarth - yn gweithio gyda'n gilydd fe allwn ni wneud arbedion sylweddol," meddai llefarydd.
Ychwanegodd y gallai'r "pump weithio gyda'n gilydd i greu arian hefyd, yn fasnachol a thrwy nawdd".