Cam-drin plant: Dyn yn Llys y Goron

  • Cyhoeddwyd
David Daniel HayesFfynhonnell y llun, Heddlu'r Gogledd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Daniel Hayes i arestio yn Granada, Sbaen

Mae dyn 39 oed o Ynys Môn wedi bod o flaen Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher mewn cysylltiad â nifer o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Cafodd David Hayes ei arestio yn Sbaen fis diwethaf ar ôl i warant Ewropeaidd gael ei chyhoeddi.

Roedd Mr Hayes yn arfer bod yn swyddog y wasg gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Bangor.

Mae wedi ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl i'r achos yn ei erbyn gychwyn ar 11 Chwefror, 2019.