Arian i sefydlu Cylch Ti a Fi yng Nghroesoswallt
- Cyhoeddwyd
Bydd cylch meithrin newydd yn dechrau yng Nghroesoswallt yn yr wythnosau nesaf - un o'r cylchoedd Ti a Fi cyntaf i gael eu hariannu yn Lloegr.
Mae'r Mudiad Meithrin wedi ymroddi i roi arian grant cychwynnol er mwyn sefydlu'r cylch yn y dref sydd ryw bum milltir o Bowys yn Sir Amwythig.
Mae criw o wirfoddolwyr yn gobeithio cynnal y sesiwn gyntaf ym mis Hydref yng Nghapel Seion y dref, ac fe fydd y gweithgareddau yn ddwyieithog.
Mae'r datblygiad yn dilyn ymgyrch gan rieni.
Un o'r rhieni yw Lowri Roberts, perchennog siop Cwlwm yng nghanol y dref.
"Mae'n bwysig i mi oherwydd dwi isio i'm merch gael addysg cyfrwng Cymraeg. Dwi isio i hi gael yr un cyfleoedd â sy' ar gael i blant jyst dros y ffin ym Mhowys ac yn Sir Wrecsam.
"Dwi mor falch fod y cyfle yma yn mynd i fod ar gael iddi oherwydd y gefnogaeth yna, ac oherwydd bod 'na awch ymhlith pobl leol - pobl Cymraeg a di-Gymraeg.
"Mae 'na lot... 'dy'n nhw ddim isio siarad Cymraeg, ond wrach bod ganddyn nhw nain neu taid ac maen nhw isio i'w plant nhw ganu caneuon Cymraeg."
Mewn neges ar y dudalen Facebook y cylch, mae trefnwyr yn dweud y byddai'n cael ei gynnal ar ddydd Llun neu ddydd Iau "mewn lleoliad yng nghanol y dref".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Awst 2018