Eifion Lloyd Jones yn 'ymddiheuro'n llawn a diamod'
- Cyhoeddwyd

Eifion Lloyd Jones yn siarad o lwyfan y Brifwyl ym Mae Caerdydd
Mae Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol wedi "ymddiheuro'n llawn a diamod" am ddefnyddio'r gair "anwariaid" mewn araith yn ystod Cymanfa Ganu'r Brifwyl yng Nghaerdydd.
Roedd Eifion Lloyd Jones eisoes wedi ymddiheuro am achosi pryder neu loes yn anfwriadol oherwydd sylwadau yn ystod seremoni Cymru a'r Byd.
Ond ers hynny mae sawl person wedi galw arno i ymddiheuro'n ddiamod am ei ddefnydd o eiriau mewn perthynas â phobl o Uganda, ac mae Pennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dileu ei aelodaeth o'r Llys.
Mewn datganiad personol pellach yn hwyr nos Fercher dywedodd Mr Lloyd Jones: "Rwy'n ymddiheuro'n llawn a diamod am y gair a ddefnyddiais yn seremoni Cymru a'r Byd, a gallaf sicrhau pawb fy mod yn gyfangwbl yn erbyn hiliaeth o unrhyw fath."
Dywedodd hefyd fod "yr Eisteddfod yr wythnos ddiwethaf yn ddathliad o gynhwysedd, amrywiaeth ac aml-ddiwylliant, pethau sydd i gyd yn agos at fy nghalon".
Pan gododd y ffrae yn wreiddiol yn ystod wythnos yr Eisteddfod, dywedodd Mr Lloyd Jones nad oedd yn "derbyn o gwbl fod unrhyw awgrym yn yr hyn ddwedes i oedd yn hiliol".
Ddydd Sul fe ymddiheurodd "am unrhyw bryder neu loes a achoswyd yn anfwriadol gan sylwadau o'm eiddo yn seremoni Cymru a'r Byd".

Dr Dylan Foster Evans ddydd Mawrthy byddai 'ymddiheuriad syml am y geiriau eu hunan' yn 'caniatáu i bawb i symud ymlaen'
Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd Dr Dylan Foster Evans ei fod yn ymddiswyddo o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol gan ddweud nad oedd geiriad ymddiheuriad diweddaraf Mr Lloyd Jones yn ddigon.
Dywedodd Dr Foster Evans bryd hynny: "Yr hyn sydd ei angen ydy ymddiheuriad syml am y geiriau eu hunain. Mae'r holl amodi ar hynny, yn anffodus, yn amhriodol, a dwi'n credu bod angen ymddiheuriad syml, a byddai hynny'n caniatáu i bawb i symud ymlaen."
Wrth fynegi siom ddydd Mawrth ynghylch yr ymddiswyddiad, dywedodd Mr Lloyd Jones ei fod wedi anfon dwy neges at Dr Foster Evans "yn esbonio'r sefyllfa ac yn dymuno arno i ailymaelodi yn fuan".
Ond ychwanegodd nad oedd yn credu y byddai dweud mwy na hynny o fudd i'r Eisteddfod ar y pryd gan ei fod "eisoes wedi cyflwyno tri ymddiheuriad".
Mewn ymateb i gais gan raglen Post Cyntaf ddydd Iau, dywedodd Mr Lloyd Jones nad oedd am roi cyfweliad.
Ychwanegodd mai dyfodol yr Eisteddfod sydd yn bwysig, nid un gair ganddo ef, a'i fod yn gobeithio mai dyna ydy'r flaenoriaeth i eraill nawr hefyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2018
- Cyhoeddwyd10 Awst 2018