Beth yw Llys yr Eisteddfod?

  • Cyhoeddwyd
Eifion Lloyd Jones yn gwobrwyo Tim Heeley, enillydd Tlws y Cerddor 2018
Disgrifiad o’r llun,

Eifion Lloyd Jones yn cyflawni un o'i ddyletswyddau fel Llywydd y Llys: gwobrwyo Tim Heeley yn seremoni Tlws y Cerddor 2018

Mae dadlau wedi bod am sylwadau Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, Eifion Lloyd Jones, yn ystod yr ŵyl yng Nghaerdydd ac un o aelodau'r Llys, Dr Dylan Foster Evans, wedi dileu ei aelodaeth mewn protest.

Mae Mr Jones bellach wedi ymddiheuro yn ddiamod.

Ond pwy a beth yn union ydy Llys yr Eisteddfod a beth yw rôl y Llywydd? Fe aethon ni ati i geisio ateb rhai cwestiynau.

Beth yw Llys yr Eisteddfod?

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn sefydliad elusennol sydd ag ymddiriedolwyr sy'n rheoli ei busnes.

Yn ôl gwefan y comisiwn elusennau mae gan yr Eisteddfod 13 ymddiriedolwr, 18 o staff a 1,000 o wirfoddolwyr.

Llys yr Eisteddfod yw corff llywodraethu'r Eisteddfod ac wrth ddod yn aelod o'r Llys mae unigolion yn dod yn aelod o'r Eisteddfod fel corff.

Sut mae dod yn aelod?

Yn ôl gwefan yr Eisteddfod mae aelodaeth o'r Llys "yn agored i unrhyw un sy'n credu yn amcanion yr Eisteddfod, sef hybu a hyrwyddo'r Gymraeg a'n diwylliant drwy drefnu a chynnal yr ŵyl".

Gall unrhyw un wneud cais i ymuno drwy ffonio neu ebostio'r Eisteddfod neu lenwi ffurflen ar eu gwefan. Y gost yw £10 y flwyddyn - £5 os ydych chi dan 25 oed - neu £100 am aelodaeth oes.

Beth mae'r Llys yn ei wneud?

Mae'r Llys yn cyfarfod bob blwyddyn yn ystod wythnos yr Eisteddfod "gyda gorolwg dros waith Cyngor yr Eisteddfod, a thrwy hynny, yr Ymddiriedolaeth," meddai gwefan yr Eisteddfod.

Mae bod yn aelod o'r Llys yn "ffordd dda o fod yn rhan o weithdrefnau'r Brifwyl ac yn gyfle i leisio barn ar bynciau sy'n ymwneud â dyfodol a datblygiad ein gŵyl genedlaethol," meddai'r wefan.

Eifion Lloyd Jones yw'r Llywydd ers 2017. Llywydd y Llys sy'n cadeirio'r cyfarfodydd cyffredinol a chymryd rhan flaenllaw mewn seremonïau fel Gwobr Goffa Daniel Owen, Tlws y Cerddor a'r Fedal Ddrama.

Mae hefyd, yn rhinwedd ei swydd, yn un o ymddiriedolwyr yr Eisteddfod ac yn gadeirydd cyfarfodydd y bwrdd ymddiriedolwyr.

Mae gan yr Eisteddfod Gyngor hefyd, beth yw gwaith y Cyngor?

Y Cyngor "yw prif fforwm elusen yr Eisteddfod," meddai gwefan yr Eisteddfod lle mae cyfle i "drafod, adolygu ac argymell syniadau a strategaethau'r sefydliad" er mwyn ei datblygu.

Y Cyngor sy'n craffu ar waith yr Eisteddfod a rhoi "cymorth a chyngor lle bo'r angen".

Mae'r Cyngor hefyd yn arolygu gwaith y Bwrdd Rheoli, sef y corff sy'n arwain yr Eisteddfod, ac yn "arolygu gwaith amryw o bwyllgorau, gan gynnwys y Pwyllgor Diwylliannol, sy'n gyfrifol am yr ochr gystadleuol, yn ogystal â datblygu elfennau artistig yr ŵyl."

Dal yn glir fel mwd? Os ydych chi eisiau gwybod mwy am sut mae'r Steddfod yn gweithio mae copi o'i chyfansoddiad i'w chael ar ffurf pdf yma., dolen allanol