Gobaith Cymro 86 oed o dorri record seiclo
- Cyhoeddwyd
Mae Cymro 86 oed yn gobeithio cyflawni camp fydd yn golygu mai fe fydd y person hynaf i seiclo o Land's End i John O'Groats.
Bydd Laurence Brophy yn dechrau ar ei daith o'i gartref ym Mhencoed ym Mhen-y-bont i Gernyw ddydd Sul.
Ei fwriad wedyn yw dechrau'r daith i John O'Groats ddydd Llun, cyn seiclo nôl gartref - cyfanswm o 1,800 o filltiroedd.
Tony Rathbone sy'n dal record byd Guinness ar hyn o bryd, wedi iddo gwblhau'r daith yn 2014, ag yntau'n 81 oed.
"Dydw i ddim yn seiclwr cyflym," meddai Mr Brophy, oedd yn arfer rhedeg marathonau.
"Byddaf yn cysgu allan ble bynnag y gallaf, gan wneud fy ngwely pan fydda i wedi blino ac yn teimlo mod i wedi gwneud digon am y diwrnod."
Mae Mr Brophy'n seiclo i godi ymwybyddiaeth am Brifysgol y Drydedd Oes - mudiad sy'n dod a phobl sydd wedi rhoi'r gorau i weithio neu fagu teulu.
Pan oedd yn ei 60au, sylweddolodd bod yn rhai iddo wneud rhywbeth i gadw'n heini, ac fe ddechreuodd loncian.
"Fe wnes i farathon Llundain, ac yna dechreuais wneud marathonau yn yr anialwch," meddai.
"Fedra i ddim fforddio anturiaethau mor ddrud nawr, felly dwi'n cerdded a seiclo.
"Dwi'n credu mai'r hyn dwi'n fwynhau fwyaf yw'r paratoi a chynllunio. Mae'r digwyddiad ei hun yn mynd i fod yn llai cyffrous.
"Dyw e ddim yn beth anturus mewn gwirionedd."