Buddugoliaeth Thomas 'yn help i dynnu'r beics o'r garej'
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwr ras y Tour de Môn, sy'n digwydd ddydd Sul, yn dweud fod camp Geraint Thomas wedi bod yn hwb i'r digwyddiad.
Mae'r gystadleuaeth flynyddol yn denu dros fil o gystadleuwyr yn gyson, gyda 1,200 wedi cofrestru ar gyfer y gwahanol rasys eleni.
Dywedodd Tim Lloyd o gwmni Always Aim High, sy'n trefnu'r achlysur, fod 500 wedi cofrestru ers i Geraint Thomas ennill y Tour de France ym mis Gorffennaf.
"Mae 'na lot o bobl wedi cofrestru yn y mis diwetha ers iddo fo ennill y Tour de France," meddai Mr Thomas wrth BBC Cymru.
"Mae o'n helpu pawb i gael eu beics allan o'r garej a mwynhau seiclo am y tro cyntaf ers talwm.
"Mae Geraint Thomas jest yn codi ystyriaeth pawb o beth sy'n gallu cael ei wneud ar feic."
Heriau'r ynys
Ychwanegodd Mr Lloyd ei bod hi'n braf gallu croesawu pobl o bob cwr o'r wlad i Ynys Môn i fwynhau'r achlysur, er bod y tirwedd yn gallu bod yn annisgwyl: "Mae pobl yn dweud wrthon ni bob blwyddyn ar Tour de Môn eu bod nhw'n disgwyl iddo fod yn fflat, ond dydy o ddim.
"Y peth arall maen nhw'n gorfod cystadlu yn ei erbyn ydy'r gwynt.
"Mae pawb yn gwybod ei bod hi'n wyntog ar yr ynys, ac ar feic, mae'r gwynt yn gallu bod yn ofnadwy o galed."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2018
- Cyhoeddwyd16 Awst 2018
- Cyhoeddwyd9 Awst 2018